Richard Ithamar Aaron
Roedd Richard Ithamar Aaron (6 Tachwedd 1901 – 4 Ebrill 1987) yn athronydd o Gymro, a aned ym Mlaendulais, Morgannwg.[1]
Richard Ithamar Aaron | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 Tachwedd 1901 ![]() Blaendulais ![]() |
Bu farw | 29 Mawrth 1987 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, gwybodeg ![]() |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | John Cook Wilson, Harold Arthur Prichard, William David Ross, A. C. Ewing ![]() |
Plant | Jane Aaron ![]() |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd yr Academi Brydeinig ![]() |
Cefndir golygu
Roedd yn fab i William Aaron, dilledydd, a'i wraig Margaret Griffith. Fe'i magwyd yn Llwyfenni, Llangyfelach, Ynystawe, a oedd yn gartref iddo rhwng 1910 a 1932, a derbyniodd ei addysg uwchradd yn ysgol ramadeg Ystalyfera. Aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd ym 1918 i astudio hanes ac athroniaeth. Ym 1923 fe'i hetholwyd yn gymrawd Brifysgol Cymru a alluogodd iddo fynd i Goleg Oriel Rhydychen, lle enillodd radd DPhil (1928) am draethawd hir o'r enw "Hanes a gwerth y gwahaniaeth rhwng deallusrwydd a greddf". [1]
Gyrfa golygu
Roedd yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1932 hyd ei ymddeoliad ym 1969. Bu hefyd yn is-gadeirydd Coleg Harlech, llywydd Cymdeithas y Meddwl a chadeirydd Cyngor Cymru. Rhwng 1938 a 1968 golygodd y cylchgrawn Efrydiau Athronyddol.[2]
Prif ffocws ei waith athronyddol oedd epistemoleg a chyffredinolion, ond mae'n fwyaf adnabyddus am ei fywgraffiad o'r athronydd John Locke.
Teulu golygu
Priododd Aaron a Rhiannon (Annie) Morgan, merch Dr Morgan John Morgan, meddyg teulu yn Aberystwyth yng nghapel Bethel, Aberystwyth, ym 1937. Bu iddynt tair merch a ddau fab. Un o'i ferched oedd yr addysgwr Jane Aaron.
Marwolaeth golygu
Bu farw o gymhlethdodau Clefyd Alzheimer yn ei gartref yn Aberystwyth yn 85 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth.
Llyfryddiaeth ddethol golygu
Cyhoeddiadau golygu
- The Nature of Knowing (1930)
- Hanes Athroniaeth (Caerdydd, 1932)
- John Locke (1937)
- The Theory of Universals (1952)
- Knowing and the Function of Reason (1971)
Astudiaeth golygu
Jones, O. R. (1987). 'Richard Ithamar Aaron, 1901-1987.' Proceedings of the British Academy 73. Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen ar ran yr Academi Brydeinig.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 Jones, O. (2004, September 23). Aaron, Richard Ithamar (1901–1987), philosopher. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Mawrth 2019
- ↑ Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1988).