Janet Evans
Gohebydd a gweinyddwraig o Loegr oedd Janet Evans (c. 1894 – 11 Rhagfyr 1970) a aned yn Llundain i deulu Cymreig a gymerai ddiddordeb mawr mewn popeth Cymreig a bu'n ohebydd ar faterion Cymreig i nifer o bapurau Llundain.[1]
Janet Evans | |
---|---|
Ganwyd | 1894 Llundain |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1970 Sir Aberteifi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Tad | Thomas John Evans |
Magwraeth a choleg
golyguFe'i ganed yn 82 Addington Mansions, Highbury, Llundain i'r newyddiadurwr Thomas John Evans a Margaret (neé Davies) a oedd o Geredigion yn wreiddiol. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol breifat cyn mynd i'r Central Foundation Girls' School lle mynychodd gyrsiau a gynhelid gan Brifysgol Llundain.[2]
Gwaith
golyguDysgodd law-fer a theipio a daeth yn ysgrifennydd personol i gyfarwyddwr cwmni allforio Amalgamated Anthracite Collieries Ltd.[3]
Teithiodd droeon ar gyfandir Ewrop ac aeth i America ddwywaith i ymweld â pherthnasau a darlithio i sefydliadau Cymreig. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd gweithiodd gyda'r B.B.C. yn Evesham, yn gwrando ar ddarllediadau Saesneg o wledydd tramor. Teithiodd trwy lawer o Gymru wrth ei gwaith fel Woman Power Officer Cymru rhwng 1942 a 1945.[4] Darlledai'n aml yng nghyfres 'Gwraig y tŷ', Woman's Hour a rhaglenni radio eraill rhwng c. 1947-54. Cymerodd ran amlwg ym mywyd cymdeithasol Cymry Llundain. Hi oedd y wraig gyntaf i fod yn gadeirydd Cymdeithas Cymry Llundain, a'r gyntaf i gael ei hethol yn aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Ceredigion Llundain a bu'n is-olygydd Llawlyfr y Gymdeithas rhwng 1936-39, a bu'n olygydd am bum mlynedd pan ailgychwynnwyd y cylchgrawn yn 1952. Ar ôl ymddeol i Geredigion bu farw'n ferch weddw ar Ddiwrnod Llywelyn (11 Rhagfyr 1970) a chladdwyd ei llwch ym mynwent Capel Erw, Cellan.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; LlGC; adalwyd 24 Ebrill 2016.
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; LlGC; adalwyd 24 Ebrill 2016.
- ↑ The Cambrian News , 25 Dec. 1970.
- ↑ stdavidsdayinlondon.com; Archifwyd 2016-04-16 yn y Peiriant Wayback adalwyd Mawrth 2016
- ↑ welshjournals.llgc.org.uk; adalwyd 24 Ebrill 2016.