Reims
Mae Reims yn ddinas hynafol ym Marne i'r dwyrain o Paris yng ngogledd Ffrainc. Mae'n ffinio gyda Bétheny, Bezannes, Cernay-lès-Reims, Champfleury, Cormontreuil, Courcy, Puisieulx, Saint-Brice-Courcelles, Saint-Léonard, Saint-Thierry, Taissy, Tinqueux, Trois-Puits, Villers-aux-Nœuds, Witry-lès-Reims ac mae ganddi boblogaeth o tua 374,681 (2017)[1].
Math | cymuned, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 179,380 |
Pennaeth llywodraeth | Arnaud Robinet |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Marne |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 46.9 km² |
Uwch y môr | 105 metr, 74 metr, 137 metr |
Yn ffinio gyda | Bétheny, Bezannes, Cernay-lès-Reims, Champfleury, Cormontreuil, Courcy, Puisieulx, Saint-Brice-Courcelles, Saint-Léonard, Saint-Thierry, Taissy, Tinqueux, Trois-Puits, Villers-aux-Nœuds, Witry-lès-Reims |
Cyfesurynnau | 49.2653°N 4.0286°E |
Cod post | 51100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Reims |
Pennaeth y Llywodraeth | Arnaud Robinet |
Reims oedd prif ddinas y dalaith Rufeinig Gallia Belgica. Sefydlwyd esgobaeth yno yn O.C. 200. Bedyddiwyd y brenin Clovis yno yn 496 gan sefydlu traddodiad brenhinol. Rhwng 1548 a 1793 roedd hen brifysgol Reims yn ganolfan dysg. Dioddefodd yr hen ddinas gryn ddifrod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond goroesodd yr eglwys gadeirol, sy'n dyddio o'r 13g a sawl adeilad hanesyddol arall. Yn ninas Reims arwyddodd y Wehrmacht ei ildiad ar y 7 Mai, 1945.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa'r Ymroddiad
- Basilica Sant Remi
- Eglwys gadeiriol Notre-Dame de Reims
- Neuadd y Dref
- Palas Tau
Enwogion
golygu- Jean-Baptiste Colbert (1619-1683), gwleidydd
- Nicolas de Grigny (1672-1703), cyfansoddwr
- Jean Baudrillard (1929-2007), athronydd
- ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.