Band roc o ardal Llanrwst oedd Jen Jeniro a ffurfiwyd yn 2005.

Wedi'u dylanwadu gan artistiaid fel Brian Jonestown Massacre, Love, Fleet Foxes, Gruff Rhys ac Y Cyrff ymhlith eraill, roedd Jen Jeniro yn adnabyddus iawn yn y sîn roc Gymreig am greu cerddoriaeth oedd yn gyfuniad o Indie, Hip-hop a Gwerin yn wreiddiol - cyn datblygu'n fand lawer mwy seicadelic.

Yn 2008 rhyddhaodd y band yr albwm Geleniaeth ar label Sbrigyn Ymborth. Yna'n 2011, rhyddhaodd y band albwm EP newydd, Swimming Limbs ar label 'KA CHING'. Dyma flwyddyn dda i Jen Jeniro gyda'r sengl, "Dolffin Pinc a Melyn" yn ennill Gwobr RAP BBC Radio Cymru am y gân orau am 2010. Cyflawnodd y band yr un gamp gyda'r un gân wrth gipio'r Wobr am Sengl Orau 2010 yng nghylchgrawn Y Selar yn ogystal.

Aelodau

golygu
  • Eryl 'Pearl' Jones - llais/offerynnau taro
  • Gwion Schiavone - gitâr/bas
  • Llyr Pari - gitâr
  • Sion Richards - bas
  • Llyr Davies - drymiau
  • Dafydd Owain - gitâr, allweddellau
  • John Alderton - bas/gitâr
  • Kyle Robertson - drymiau
  • Scot Bordoni - gitâr
  • Math Wiliam - bas
  • Jonny Abbott - bas
  • Ifan Gwilym - bas

Disgyddiaeth

golygu
  • Tallahassee EP (2006)
  • Geleniaeth (2008)
  • Dolffin Pinc a Melyn - sengl (2010)
  • Swimming Limbs EP (2011)

Dolenni allanol

golygu