Grŵp o ardal Aberteifi oedd Jess. Roedd yn o'r bandiau pop Cymraeg cyntaf a benderfynodd o fwriad i grwydro y tu hwnt i Gymru er mwyn ennill eu bywoliaeth fel cerddorion proffesiynol.

Jess
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Aelodau golygu

  • Brychan Llŷr [Jones] (llais)
  • Chris Lewis (gitâr)
  • Emyr Davies (gitâr fas)
  • Owen Thomas (drymiau)

Hanes golygu

Grŵp ysgol oedd Jess yn wreiddiol a ffurfiwyd yn 1987. Roedd Brychan Llŷr, mab y bardd, Dic Jones (1934–2009), ac Emyr Davies yn mynychu ysgol roc yn Ysgol y Preseli pan roeddynt yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Rhoddodd yr ysgol roc gyfle iddynt weithio gydag aelodau'r band lleol poblogaidd, Ail Symudiad.

Yn ystod eu dwy flynedd olaf yn yr ysgol aeth y ddau ati i brynu offer cerddorol trydanol. Yn y man, ymunodd Chris Lewis a Rhodri Bowen, eu drymiwr cyntaf, a bu'r pedwar yn chwarae gyda'i gilydd hyd nes yr aeth Rhodri Bowen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Daeth Owen Thomas i'w olynu wrth y drymiau a mabwysiadwyd yr enw Jess, sef enw'r gath ar y rhaglen deledu i blant Postman Pat.

Er bod 'sîn Teifi' ar ei hanterth ar y pryd, gydag Ail Symudiad, Rocyn, Y Diawled a Malcolm Gwion ymysg eraill yn hawlio sylw'r gynulleidfa bop Gymraeg, ychydig o gyngherddau pop Cymraeg oedd yn bodoli yn yr ardal. Byddai aelodau Jess yn aml yn teithio i Loegr, felly, i weld grwpiau Saesneg a golygai hynny mai digon ymylol oedd y sîn roc Gymraeg iddynt hwy. Dyma un rheswm pam y dechreuodd Jess fel grŵp Saesneg, ond derbyniodd yr aelodau gyngor Wyn Jones o Recordiau Fflach (a gitarydd bas Ail Symudiad) a throi at y Gymraeg er mwyn cael gwaith teledu a radio. Apeliodd Jess at gynulleidfa Gymraeg yn ddiymdroi, ond roeddynt hefyd yn perfformio'n ddwyieithog er mwyn denu'r gynulleidfa ehangaf posibl, boed yng Nghymru neu y tu hwnt.

Roedd cynnal natur ddwyieithog y grŵp yn frwydr galed. Ar adegau, cawsant sylw cadarnhaol gan y cyfryngau Cymraeg. Er enghraifft, aethant ar daith i Brâg gyda Geraint Jarman a'i gwmni Criw Byw gan greu deunydd ar gyfer rhai o raglenni cynnar y gyfres Fideo 9 ar S4C a chael cyfle i arddangos cerddoriaeth Gymreig mewn cyd-destun Ewropeaidd. Ond bryd arall, roedd ymateb y sefydliadau Cymraeg yn anffafriol. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol nid oedd Jess, er enghraifft, yn cael yr un cyfleoedd i berfformio â rhai bandiau eraill. Roedd eu hagwedd ieithyddol weithiau'n effeithio ar eu derbyniad yng Nghymru.

Rhyddhawyd eu record gyntaf, sef mini-album eponymaidd ar label Fflach yn 1988, gan gynnwys caneuon fel 'Pan Mae'r Glaw yn Dod i Lawr' yn sefydlu'r band yn fuan fel un o grwpiau mwyaf addawol Cymru. Roedd Y Gath (Fflach, 1989) yn adlewyrchiad pellach o'r graen a berthynai i'w perfformiadau byw, ac roedd safon y caneuon – a oedd yn aml yn aml-adrannol ac estynedig, gan roi sylw i ddoniau offerynnol y grŵp – yn amlwg. Fe fyddai'n gamarweiniol disgrifio Jess fel band roc blaengar (progressive rock), ond yn sicr roedd y pwyslais ar saernï caneuon slic a soffistigedig yn nodwedd bwysig o'u harddull, ac fe amlygwyd hyn yn arbennig ar eu albwm lawn gyntaf, Hyfryd i Fod yn Fyw (Fflach 1990), lle rhoddwyd sylw amlwg i harmonïau lleisiol yng nghân deitl y record, ac wrth gyfansoddi caneuon trawiadol megis 'Pwy Sy'n Hapus' a'r deifiol 'Julia Gitar'. 'Eclectig' fyddai un ffordd o ddisgrifio arddull y band, gan symud yn ddi-ymdrech o ffync at sain mwy acwsdig ac yna i gyfeiriad seicadelia.

Ar ôl rhyddhau Paris Hotel yn 1992, trodd Jess i ganu'n Saesneg, gan recordio fersiynau Saesneg o rai o'i caneuon ar gyfer Sextravaganja (1993). Daeth trobwynt yn hanes y band pan ddaethant yn rhan o brosiect newydd cyn-ganwr y band Eingl-Gymreig The Alarm, Mike Peters. Roedd Peters wedi penderfynu dilyn gyrfa fel perfformiwr unigol ac yn chwilio am fand newydd i gyfeilio iddo. Teithiodd Peters gyda Jess o dan yr enw Poets of Justice yn ystod 1994–5, gan ryddhau yr EP Nôl i Mewn i'r System (Crai, 1994) ac yna'r album ddwyieithog Aer (Crai, 1994). Ni fu'r berthynas yn un gwbl lwyddiannus, fodd bynnag, gan nad oedd lle amlwg i flaenwr Jess, Brychan Llŷr, o fewn i'r band. Yn dilyn hyn, aeth Brychan Llŷr ati i ryddhau cynnyrch ar ei liwt ei hun neu fel rhan o brosiectau gwahanol megis U4Ria. Ail-ffurfiodd y grŵp yn 2009.

Roedd Jess yn grŵp arloesol, blaengar ac arbrofol a adlewyrchai ddylanwadau cerddorol Eingl-Americanaidd mewn dull Cymreig. Ym marn Owain Meredith, grŵp 'cabaret' oeddynt yn y bôn. O ganlyniad, roedd naws theatrig y gerddoriaeth – a oedd yn 'tueddu i fynd yn fwy cymhleth wrth iddyn nhw fynd ymlaen' – yn golygu ei bod yn anoddach gwerthfawrogi'n llwyr recordiau aeddfed y band, fel Paris Hotel (Meredith 1992, 21). Yn dilyn cael eu siomi gan elfen o'r diwydiant celfyddydol yng Nghymru, cawsant lwyddiant yn yr Eidal, nid yn unig drwy gyngherddau ac ymddangosiadau ar deledu cenedlaethol yn y wlad, ond hefyd o ran gwerthiant recordiau. Mae Jess yn enghraifft arwyddocaol o allu'r byd pop Cymraeg i ymestyn y tu hwnt i ffiniau ieithyddol a daearyddol ac i sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol i gerddoriaeth o Gymru. Wedi i'r grŵp chwalu yn 1993, aeth Brychan Llŷr ati i ryddhau nifer o recordiau unigol. Bu hefyd yn cyfrannu'n gyson i raglenni radio a theledu Cymraeg ac yn 2013 cyhoeddodd ei hunangofiant.

Disgyddiaeth golygu

  • Jess [casét] (Fflach 037, 1988)
  • Y Gath [casét] (Fflach C056C, 1989)
  • Hyfryd i Fod yn Fyw (Fflach C0091H, 1990)
  • Paris Hotel (001, 1992)
  • Sextravaganja [casét] (002, 1993) [yn cynnwys fersiynau Saesneg o rai o ganeuon Paris Hotel]

Brychan Llŷr golygu

  1. gyda U4Ria:
  • Contentment [EP] (Crai CD054L, 1997)
  1. fel artist unawdol:
  • Vexed Fanatica (Irldea EZ/27, 1999)
  • Bad Pink Vibe (CYCP 2130, 2001)
  • Reel in Between (CYCP 2360, 2003)

Llyfryddiaeth golygu

  • Owain Meredith, 'Adolygiad o Paris Hotel', Sothach 45 (Hydref 1992), 20–21.
  • Brychan Llŷr, Hunan-anghofiant (Tal-y-bont, 2013).
  • Ymddangosiadau Brychan Llŷr ar Beti a'i Phobol (29 Ionawr 1995, 28 Ionawr 2013).
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Jess ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.