Jim Steinman
Cyfansoddwr, awdur geiriau caneuon, cynhyrchydd recordiau, a dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd James Richard Steinman (1 Tachwedd 1947 – 19 Ebrill 2021).[1] Gweithiodd hefyd fel trefnydd, pianydd, a chanwr. Roedd ei waith yn cynnwys caneuon yn yr arddulliau roc cyfoes, dawns, pop, theatr gerdd a sgôr ffilm.
Jim Steinman | |
---|---|
Ffugenw | Jim Steinman |
Ganwyd | James Richard Steinman 1 Tachwedd 1947 Claremont, Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 19 Ebrill 2021 o methiant yr arennau Danbury |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, canwr, cerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, pianydd, cynhyrchydd, awdur geiriau |
Adnabyddus am | Making Love Out of Nothing at All |
Arddull | cerddoriaeth roc |
Roedd ei waith yn cynnwys albymau fel Bat Out of Hell gan Meat Loaf (sy'n un o'r albymau a werthodd mwyaf erioed) [2] a Bat Out of Hell II: Back into Hell, a chynhyrchu albymau ar gyfer Bonnie Tyler. Mae ei senglau siart mwyaf llwyddiannus yn cynnwys "Total Eclipse of the Heart" gan Tyler, "Making Love Out of Nothing at All " gan Air Supply , "I’d Do Anything for Love (But I Won't Do That) " gan Meat Loaf, " This Corrosion" a "More" gan Sisters of Mercy, "Read 'Em and Weep" gan Barry Manilow, fersiwn Celine Dion o "It's All Coming Back to Me Now" (a ryddhawyd yn wreiddiol gan brosiect Steinman, Pandora's Box). Ysgrifennodd Steinman geiriau y gân "No Matter What" gan Boyzone (y sengl cyntaf ac unig un y grŵp i fod yn boblogaidd a chyrraedd siartiau yr UDA). Rhyddhawyd unig albwm unigol Steinman Bad for Good ym 1981.
Roedd gwaith Jim Steinman hefyd yn ymestyn i theatr gerdd, lle dechreuodd ei yrfa. Cafodd Steinman gydnabyddiaeth am y llyfr, y gerddoriaeth, a'r geiriau ar gyfer Bat Out of Hell: The Musical, yn ogystal â geiriau ar gyfer Whistle Down the Wind, a cherddoriaeth i Tanz der Vampire.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Steinman yn Hewlett, Efrog Newydd.[3] Ei rieni oedd Louis ac Eleanor. Roedd o dras Iddewig.[4]
Graddiodd Steinman o Ysgol Uwchradd George W. Hewlett yn 1965.[5] Yn 1963, yn ystod ei ail flwyddyn yn Ysgol Uwchradd Hewlett, enillodd Steinman gystadleuaeth traethawd Newsday ar Hanes America am ei draethawd ar yr hyn oedd yn credu oedd y tri dyfais Americanaidd gorau.[6] Derbyniodd Steinman ei radd baglor o Goleg Amherst ym 1969.
Bywyd personol
golyguAr adeg ei farwolaeth, roedd Steinman yn byw yn Ridgefield, Connecticut.[7]
Iechyd a marwolaeth
golyguCafodd Steinman strôc yn 2004 a chollodd y gallu i siarad dros dro.[8]
Bu farw Steinman o fethiant yr arennau mewn ysbyty yn Danbury, Connecticut, ar 19 Ebrill 2021 yn 73 mlwydd oed.[3][7] Ar ôl i Steinman farw, dywedodd yr awdur roc Paul Stenning iddo adael "etifeddiaeth aruthrol", gan gyfeirio ato fel "y cyfansoddwr mwyaf erioed o roc symffonig" a'i nodi fel dylanwad ar amrywiaeth o fandiau ar draws sawl genre.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "1997 Grammy Awards" (yn Saesneg). Grammy.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Chwefror 2015. Cyrchwyd 23 Mai 2011.
- ↑ "50 Best Selling Studio Albums" (yn Saesneg). This Day In Music. Cyrchwyd 7 Chwefror 2021.
- ↑ 3.0 3.1 Genzlinger, Neil (20 Ebrill 2021). "Jim Steinman, 'Bat Out of Hell' Songwriter, Dies at 73". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Ebrill 2021.
- ↑ Bright, Spencer (8 Rhagfyr 1996). "Jim'll Fix It (The Sunday Times)". jimsteinman.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Ionawr 2019.
Clearly there is a mutual admiration society going on between the knight of the theatre and the half-Jewish New Yorker.
- ↑ Strauss, Matthew. "Jim Steinman, Songwriter Behind Meat Loaf's Bat Out of Hell, Dies at 73". Pitchfork (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21. Cyrchwyd 2021-04-21.
- ↑ "Congressional Record: Proceedings and Debates of the ... Congress - United States. Congress - Google Books". web.archive.org (yn Saesneg). 21 Ebrill 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21. Cyrchwyd 2021-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 7.0 7.1 Brisco, Elise (20 Ebrill 2021). "'Bat Out of Hell' songwriter and producer Jim Steinman dies at 73". USA Today (yn Saesneg). Gannett Co., Inc. Cyrchwyd 21 Ebrill 2021.
- ↑ "Jim Steinman - Amherst College - May 25th 2013 - Full Speech". youtube.com (yn Saesneg). 25 Mai 2013. Cyrchwyd 24 Awst 2020.
- ↑ Cyprus Mail, 21 Ebrill 2021
Dolenni allanol
golygu- Steinmania - Yn cynnwys Recordiad 1969 o Dream Engine