Bonnie Tyler

canwr Cymreig (1951- )

Cantores bop o Gymraes yw Bonnie Tyler, MBE (ganwyd Gaynor Hopkins; 8 Mehefin 1951) sy'n adnabyddus am ei llais pwerus a chryg.

Bonnie Tyler
FfugenwBonnie Tyler Edit this on Wikidata
GanwydGaynor Hopkins Edit this on Wikidata
8 Mehefin 1951 Edit this on Wikidata
Sgiwen Edit this on Wikidata
Label recordioRCA Records, Chrysalis Records, Columbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad, roc meddal, roc poblogaidd Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Steiger Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://bonnietyler.com Edit this on Wikidata
Tyler yn ymarfer ar gyfer yr Eurovision Song Contest yn Malmö, Sweden ar 15 Mai 2013.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Gaynor Hopkins yn Sgiwen ger Castell Nedd, i'r glöwr Glyndwr a'r wraig tŷ Elsie Hopkins.[1] Fe'i magwyd mewn tŷ cyngor pedwar stafell wely gyda thair chwaer a dau frawd.[1] Roed gan ei brodyr a chwiorydd gyda chwaeth eang ewn cerddoriaeth, gan ei cyflwyno i artistaid fel Elvis Presley, Frank Sinatra and the Beatles.[2] Roedd Hopkins a'i theulu yn Brotestaniaid crefyddol iawn.[1] Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf fel plentyn yn y capel, yn ganu yr emyn Anglicanaidd "All Things Bright and Beautiful".[3]

Gadawodd ysgol heb gymwysterau ffurfiol a cychwynodd weithio mewn siop groser.[4] Yn 1969, cystadlodd mewn cystadleuaeth ddoniau lleol ac ar ôl dod yn yr ail safle, cafodd ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa fel cantores.[5] Drwy ymateb i hysbyseb papur newydd, cafodd waith fel cantores cefndir i Bobby Wayne & the Dixies cyn ffurfio ei band soul ei hunan o'r enw Imagination.[6] Tua'r adeg hyn y newidiodd ei henw llwyfan i Sherene Davis, i osgoi cael ei drysu gyda'r gantores werin Mary Hopkin.[7]

Gyrfa golygu

Ar ôl blynyddoedd o ganu yn nhafarnau a chlybiau (gyda'r darlledydd Chris Needs yn cyfeilio iddi yn y dyddiau hynny) cyrhaeddodd 10 uchaf senglau Prydain ym 1975 gyda'r gân Lost in France.

Daeth uchafbwynt ei gyrfa yn 1983 wrth iddi recordio albwm Faster Than The Speed of Night, a'r sengl Total Eclipse of the Heart gan Jim Steinman arno. Aeth y ddau i rif 1 y siartiau pop ym Mhrydain. Roedd Total Eclipse of the Heart yn llwyddiant masnachol rhyngwladol.

Heddiw mae ganddi dŷ yn y Mwmbwls ger Abertawe ond mae'n treulio llawer o'r flwyddyn ym Mhortiwgal.

Cynrychiolodd Bonnie y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2013. Yn 2022 derbyniodd yr MBE am wasanaethau i gerddoriaeth".[8]

Disgyddiaeth golygu

Albymau stiwdio golygu

  • The World Starts Tonight (1977)
  • Natural Force (1978)
  • Diamond Cut (1979)
  • Goodbye to the Island (1981)
  • Faster Than the Speed of Night (1983)
  • Secret Dreams and Forbidden Fire (1986)
  • Hide Your Heart (1988) adnabyddir hefyd fel Notes From America (1988)
  • Bitterblue (1991)
  • Angel Heart (1992)
  • Silhouette in Red (1993)
  • Free Spirit (1995)
  • All in One Voice (1998)
  • Heart Strings (2003) adnabyddir hefyd fel Heart & Soul (2002)
  • Simply Believe (2004)
  • Wings (2005) adnabyddir hefyd fel Celebrate (2006)
  • Rocks and Honey (2013)
  • Between the Earth and the Stars (2019)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Lewis, Roz (17 Tachwedd 2012). "Bonnie Tyler: My family values". The Guardian (yn Saesneg). Guardian Media Group. Cyrchwyd 5 January 2015.
  2. Bruce, Ken; Tyler, Bonnie (13 Medi 2013). Bonnie Tyler - Tracks of My Years (yn Saesneg). London: BBC. Event occurs at 06:32. Cyrchwyd 2015-06-27.
  3. "Singing roots to Total Eclipse". BBC News (yn Saesneg). BBC. 23 Medi 2009. Cyrchwyd 27 Mehefin 2015.
  4. Saner, Emine (13 Mai 2013). "Bonnie Tyler: 'I'm not part of the 80s, I'm part of now'". The Guardian. Guardian Media Group. Cyrchwyd 29 Mehefin 2015.
  5. "Bonnie Tyler: 'Forget being a star - do it for the love of it'". The Guardian (yn Saesneg). Guardian Media Group. 10 May 2009. Cyrchwyd 27 Mehefin 2015.
  6. "Bonnie Tyler biography". BBC. 17 November 2008. Cyrchwyd 27 Mehefin 2015.
  7. "BBC - Bonnie Tyler biography". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Ebrill 2018.
  8. "Queen's Birthday Honours List 2021: All the Welsh people honoured". WalesOnline (yn Saesneg). 2 Mehefin 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2022. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.