Palestine: Peace Not Apartheid

Llyfr gan Jimmy Carter, 39fed Arlywydd yr Unol Daleithiau (1977–1981) ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel ydy Palestine: Peace Not Apartheid.[1] Fe'i cyhoeddwyd gan Simon and Schuster yn Nhachwedd 2006.[2]

Palestine: Peace Not Apartheid
Clawr y llyfr
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurJimmy Carter
Cyhoeddwr2006 (Simon & Schuster)
GwladUnol Daleithiau America
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi2006 Edit this on Wikidata
PwncGwyddoniaeth Gwleidyddiaeth
ArgaeleddAr gael
ISBN978-0-7432-8502-5
GenreNid ffuglen
Olynwyd ganWe Can Have Peace in the Holy Land Edit this on Wikidata
Prif bwncgwyddor gwleidyddiaeth Edit this on Wikidata

Tra'n Arlywydd, cyhaliodd drafodaethau Camp David rhwng Menachem Begin o Israel ac Anwar Sadat o'r Aifft a arweiniodd at gytundeb heddwch Aifft-Israel. Barn Carter yn ei lyfr Palestine: Peace Not Apartheid yw mai gafael Israel ar diroedd y Palesteiniaid ydy asgwrn holl gynnen problemau'r Dwyrain Canol a'r hyn sy'n atal heddwch yno.[3] Beirniadwyd y llyfr yn bennaf gan Iddewon ac Israeliaid ond nododd Carter fod y feirniadaeth "in the real world… has been overwhelmingly positive." [4]

Y prif ddaliadau

golygu

"The ultimate purpose"

golygu

The ultimate purpose of my book is to present facts about the Middle East that are largely unknown in America, to precipitate discussion and to help restart peace talks (now absent for six years) that can lead to permanent peace for Israel and its neighbors. Another hope is that Jews and other Americans who share this same goal might be motivated to express their views, even publicly, and perhaps in concert. I would be glad to help with that effort.[4]

Thesis: Sut i gael heddwch cynhwysfawr yn y Dwyrain Canol

golygu

Nododd y ddwy broblem pennaf:

[1] Mae rhai Israeliaid yn credu fod ganddyn nhw'r hawl i gymeryd tiroedd y Palesteiniaid oddi wrthynt. Mae rhai hefyd yn ceisio cyfiawnhau'r driniaeth eilradd a roddir i'r Palesteiniaid: "(They) try to justify the sustained subjugation and persecution of increasingly hopeless and aggravated Palestinians;" ac

[2] Mae rhai Palesteiniaid yn adweithio'n negyddol i'r driniaeth hon, drwy fomio neu ddanfon rocedi, a chredant y cânt eu gwobrwyo am hyn yn y nefoedd.[3]

Er mwyn dod a'r ddau yma i ben, mae Carter yn galw ym Mhennod 17 am adnewyddu'r gweithdrefnau heddwch, yn enwedig y canlynol:

a. The security of Israel must be guaranteed ...
b. The internal debate within Israel must be resolved in order to define Israel's permanent legal boundary ...

c. The sovereignty of all Middle East nations and sanctity of international borders must be honored ...[3]

Yr honiad o Apartheid

golygu

Cyfiawnhaodd y defnydd o'r gair "Apartheid" yn ei lyfr drwy ddweud:

"It's not Israel. The book has nothing to do with what's going on inside Israel which is a wonderful democracy, you know, where everyone has guaranteed equal rights and where, under the law, Arabs and Jews who are Israelis have the same privileges about Israel. That's been most of the controversy because people assume it's about Israel. It's not.[5]

"I've never alleged that the framework of apartheid existed within Israel at all, and that what does exist in the West Bank is based on trying to take Palestinian land and not on racism. So it was a very clear distinction."[6]

Y prif bwyntiau

golygu
  • Marwolaethau niferus sifiliaid dieuog o'r ddwy ochr, ac y dylai'r trais stopio.
  • Am 39 blwyddyn mae Israel wedi meddiannu tir y Palesteiniaid.
  • Ataliwyd llawer o Balesteiniaid rhag fynd yn ôl i'w tiroedd a'u tai, mae'r rheiny sy'n protestio'n cael eu gormesu. Mae arwahanu (segregation) gorfodol yn digwydd a gorfodir yr Arabiaid i ddefnyddio dull gymhleth o gael mynediad i lefydd drwy system o 'pass'.
  • Mae Israel wedi amgylchynu'r Lan Orllewinol a Llain Gaza gyda waliau anferthol yn ogystal â ffiniau naturiol megis yr Iorddonen ac yn rheoli'r mynd-a-dod yn llym. Ni chaniateir i'r Palesteiniaid fynediad rhydd i fynd allan o'r mannau hyn i'r byd mawr.
  • Nid yw'r Palesteiniaid yn cael hanfodion symlaf bwyd (The Palestinian people are now being deprived of the necessities of life). Un pryd bychan o fwyd mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn ei gael.
  • Mae Mahmoud Abbas wedi ceisio negydu am chwe mlynedd gydag Israel i wella'r sefyllfa heb unrhyw gonsesiynau'n cael eu rhoi.
  • Mae'r Camp David Accords a chynigion y Cenhedloedd Unedig a'r International Roadmap for Peace yn galw ar Israel i dynnu'n ôl o'r tiroedd dan feddiant. Ar y llaw arall mae'n hanfodol fod y Palesteiniaid yn derbyn hawl Israel i fyw mewn heddwch o fewn ei ffiniau. Y ddau bwynt yma yw hanfodion unrhyw heddwch, yn ôl Carter.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-24. Cyrchwyd 2014-07-20.
  2. "Best Sellers: Hardcover Nonfiction", New York Times, adalwyd 27 Ionawr 2007.
  3. 3.0 3.1 3.2 http://www.simonsays.com/content/book.cfm?tab=1&pid=522298&agid=2 Excerpt: Chapter 17: "Summary," online posting, Simon and Schuster, adalwyd 27 Ionawr 2007
  4. 4.0 4.1 Jimmy Carter, http://www.latimes.com/news/opinion/la-oe-carter8dec08,0,7544738.story "Speaking Frankly about Israel and Palestine"], The Los Angeles Times 8 Rhagfyr 2006, adalwyd 24 Rhagfyr 2006
  5. Life & Times – Transcript – 12/14/06[dolen farw]
  6. "CNN.com". CNN. Cyrchwyd 2010-05-05.
  7. Jimmy Carter, http://www.boston.com/news/globe/editorial_opinion/oped/articles/2006/12/20/reiterating_the_keys_to_peace/ "Reiterating the Keys to Peace," Boston Globe 20 December 2006, accessed 3 January 2007. (Bullets added)