Jimmy Michael
Seiclwr trac Cymreig oedd Jimmy Michael (18 Awst 1877 – 21 Tachwedd 1904). Ganed ef yn Aberaman, Rhondda Cynon Taf. Ddechreuodd seiclo yn ifanc gan ddod i'r amlwg gyda chymorth Arthur Linton a Choppy Wharburton, pan enillodd ras Herne Hill yn gyflymach na neb erioed o’r blaen. Trodd yn seiclwr proffesiynol yn 1895 gan ddod yn Bencampwr Stayer y Byd yr un flwyddyn. Curodd y pencampwr Ffrengig Lucien Lesna, gan gwblhau 50 km yn yr un cyflymdra campus ag Arthur Linton. Rhwng ei lwyddiant ef a thymor gwael Linton, surodd y berthynas rhyngddynt ac yn dilyn marwolaeth Linton, torrodd Michael unrhyw gysylltiad â Warburton gan symud i'r Unol Daleithiau. Cafodd yrfa gweddol lwyddiannus yno am gyfnod, gan dorri recordiau ac ennill ffortiwn sylweddol. Ymddeolodd o'r byd beicio gan fynd i weithio fel joci ac daeth yn berchennog ar stabl rasio. Pan fethodd y fenter, penderfynodd ddychwelyd i Efrog Newydd ond ni chyrhaeddodd a bu farw o’r delerium tremens ar fwrdd llong y Savoie ar 21 Tachwedd 1904, yn bur debyg o ganlyniad i yfed trwm.[1]
Jimmy Michael | |
---|---|
Ganwyd | 18 Awst 1877 Aberdâr |
Bu farw | 21 Tachwedd 1904 at sea |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Taldra | 1.56 metr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Palmarès
golyguCyfeiriadau
golygu- Encyclopédie mondiale du cyclisme (Pascal Sergent - Editions de Eecloonaar)
- Memoire-du-cyclisme.net Archifwyd 2008-05-23 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Llwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf - Aberaman". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-12. Cyrchwyd 2008-10-12.
Dolenni allanol
golygu