Jimmy Sangster
Roedd James Henry Kinmel Sangster (2 Rhagfyr 1927 - 19 Awst 2011) yn sgriptiwr sgrin a chyfarwyddwr Cymreig. Mae'n fwyaf enwog am ei waith ar y ffilmiau arswyd cychwynnol a wnaed gan y cwmni Prydeinig Hammer Films, gan gynnwys The Curse of Frankenstein (1957) a Dracula (1958 ).[1]
Jimmy Sangster | |
---|---|
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1927 Bae Cinmel |
Bu farw | 19 Awst 2011 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd |
Bywyd cynnar
golyguYn fab i werthwr tai, ganwyd Sangster ym Mae Cinmel. Rhoddwyd "Kinmel" fel un o'i enwau iddo, gan mae ef oedd y baban cyntaf i'w eni yn y dref.[2] Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Castell Ewell. Dechreuodd ei yrfa ffilm, yn 16 oed, fel bachgen y clapfwrdd.[3]
Ar ôl gwasanaethu gyda'r Awyrlu Brenhinol, yn India ar gyfer ei Wasanaeth Cenedlaethol,[4] gweithiodd fel trydydd cyfarwyddwr cynorthwyol ar gynyrchiadau Ealing Studios, yna ymunodd â Exclusive Studios (Hammer Films yn ddiweddarach) ym 1949.
Gyrfa
golyguYn wreiddiol, bu Sangster yn gweithio fel cynorthwyydd cynhyrchu yn Hammer Films, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr cynorthwyol, cyfarwyddwr ail uned a rheolwr cynhyrchu. Ar ôl llwyddiant Hammer gyda The Quatermass Xperiment, gofynnwyd iddo ysgrifennu X the Unknown, ac atebodd iddo "Nid ydwyf yn awdur. Rwy'n rheolwr cynhyrchu." Ymateb Hammer Films oedd: "Wel, os gynigiwch chi gwpl o syniadau os ydym yn eu hoffi, cewch eich talu. Os nad ydym yn eu hoffi, cewch chi ddim mo'ch talu. Rydych yn cael eich talu fel rheolwr cynhyrchu, felly ni allwch gwyno." Yn ddiweddarach bu Sangster yn cyfarwyddo gan gychwyn gyda The Horror of Frankenstein a Lust for a Vampire (y ddau ym 1970) ar gyfer y stiwdio, ond gyda llawer llai o lwyddiant. Ei drydedd ffilm (a’r olaf) fel cyfarwyddwr oedd Fear in the Night (1972), a atgyfododd y ffilm gyffro seicolegol menyw-mewn-perygl yr oedd wedi dechrau gyda’i sgript ar gyfer Taste of Fear (1961). Roedd pob un o'r tair ffilm a gyfarwyddodd yn cynnwys yr actor Ralph Bates, ffrind i Sangster ac un o berfformwyr mwyaf adnabyddus cwmni Hammer i'r cwmni yn ystod y 1970au.[5]
Bu Sangster yn sgriptio a chynhyrchu dwy ffilm ar gyfer Bette Davis, The Nanny (1965) a The Anniversary (1968).[6] Roedd ei gredydau ysgrifennu sgriptiau eraill yn cynnwys The Siege of Sidney Street (1960), a oedd yn serennu Donald Sinden ac yn cynnwys cameo o Sangster fel Winston Churchill. Mae ei gredydau sgriptiau sgrin teledu niferus yn cynnwys Kolchak: The Night Stalker, Movin 'On, The Magician, BJ and the Bear, Most Wanted, Ironside, McCloud, The Six Million Dollar Man a Wonder Woman.
Nofelydd
golyguRoedd Sangster hefyd yn awdur y nofelau [7] Touchfeather, Touchfeather, Too; Foreign Exchange, Private I (neu The Spy Killer ), Snowball, Hardball, a Blackball, y mae pob un ohonynt wedi cael eu hailgyhoeddi gan Brash Books . Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys y nofel Your Friendly Neighbourhood Death Peddler, y cofiant ffeithiol Do You Want it Good or Tuesday? [8] a llawlyfr ysgrifennu i'r sgrin 2003, Screenwriting: Techniques for Success [9] . Yn 2019, cyhoeddodd Brash Books eu bod wedi darganfod nofel gan Sangster nas cyhoeddwyd o'r blaen, Fireball, y byddant yn ei rhyddhau yn 2020.
Bywyd personol
golyguBu farw Sangster ar 19 Awst 2011,[10] a goroeswyd ef gan ei drydedd wraig, yr actores Mary Peach; mab o briodas gynharach, Mark James Sangster;[1] a dau o wyrion, Claire ac Ian Sangster.
Ffilmograffeg
golygu- Fel cyfarwyddwr
Blwyddyn | Teitl | Nodiadau |
---|---|---|
1970 | The Horror of Frankenstein | Hefyd yn gynhyrchydd a chyd-ysgrifennwr |
1971 | Lust for a Vampire | |
1972 | Fear in the Night | Hefyd yn gynhyrchydd a chyd-ysgrifennwr |
- Fel ysgrifennwr sgrin
Blwyddyn | Teitl | Nodiadau |
---|---|---|
1955 | A Man on the Beach | |
1956 | X the Unknown | |
1957 | The Curse of Frankenstein | |
1958 | Dracula | |
1958 | The Revenge of Frankenstein | |
1958 | Intent to Kill | |
1958 | The Snorkel | |
1958 | Blood of the Vampire | |
1958 | The Crawling Eye | |
1959 | Jack the Ripper | |
1959 | The Man Who Could Cheat Death | |
1959 | The Mummy | |
1960 | The Brides of Dracula | |
1960 | The Siege of Sidney Street | |
1961 | The Hellfire Club | |
1961 | The Terror of the Tongs | |
1961 | Scream of Fear | |
1962 | The Pirates of Blood River | |
1962 | Paranoiac | |
1963 | Maniac | |
1964 | Nightmare | |
1964 | The Devil-Ship Pirates | |
1964 | Traitor's Gate | |
1965 | Hysteria | |
1965 | The Nanny | |
1966 | Dracula: Prince of Darkness | Fel John Sansom |
1967 | Deadlier Than the Male | |
1968 | The Anniversary | |
1969 | The Spy Killer | Ffilm teledu |
1970 | Foreign Exchange | Ffilm teledu |
1970 | Crescendo | |
1970 | The Horror of Frankenstein | Cyd-ysgrifennwr; hefyd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd |
1971 | A Taste of Evil | Ffilm teledu |
1972 | Fear in the Night | Hefyd yn gynhyrchydd a chyd-ysgrifennwr |
1972 | Whoever Slew Auntie Roo? | |
1973 | Scream, Pretty Peggy | Ffilm teledu |
1973 | Maneater | Ffilm teledu |
1977 | Good Against Evil | Ffilm teledu |
1978 | The Legacy | |
1979 | The Country Western Murders | Ffilm teledu |
1979 | The Billion Dollar Threat | Ffilm teledu |
1979 | Ebony, Ivory and Jade | Ffilm teledu |
1980 | Phobia | |
1980 | Once Upon a Spy | Ffilm teledu |
1981 | No Place to Hide | Ffilm teledu |
1981 | The Devil and Max Devlin | |
1984 | The Toughest Man in the World | Ffilm teledu |
1985 | North Beach and Rawhide | Ffilm teledu |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Jimmy Sangster". 6 September 2011.
- ↑ Newman, Kim (2011-08-21). "Jimmy Sangster obituary". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-17.
- ↑ "Jimmy Sangster". 2011-09-06. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2019-10-17.
- ↑ "The British Entertainment History Project | Jimmy Sangster |". historyproject.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-17.
- ↑ "Jimmy Sangster: Writer and director who scripted Hammer Horror's most". The Independent. 2011-08-29. Cyrchwyd 2019-10-17.
- ↑ "Jimmy Sangster". 2011-09-06. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2019-10-17.
- ↑ "Jimmy Sangster". www.fantasticfiction.com. Cyrchwyd 2019-10-17.
- ↑ "Jimmy Sangster | British screenwriter and director". Encyclopedia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-20. Cyrchwyd 2019-10-17.
- ↑ Sangster, Jimmy (4 May 2019). "Screenwriting: Techniques for Success". Reynolds & Hearn.
- ↑ "Hammer screenwriter Sangster dies". BBC. 2011-08-23. Cyrchwyd 2019-10-17.
Dolenni allanol
golygu- Jimmy Sangster ar Find a Grave
- Jimmy Sangster yn CinemaRetro.com