Joan Elizabeth Curran
Gwyddonydd o Gymru oedd Joan Elizabeth Curran (26 Chwefror 1916 – 10 Chwefror 1999) a chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad y radar a'r bom atomig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyfeisiodd 'Chaff', sef offer a oedd yn ymwneud â radar, a honir i'r ddyfais honno arbed miloedd o fywydau awyrlu'r Cynghreiriaid yn ystod y rhyfel. Datblygodd hefyd y 'ffiws-agos' (proximity fuse) a'r broses gwahanu eisotopau ymbelydrol ar gyfer creu'r bom atomig, drwy buro wraniwm.
Joan Elizabeth Curran | |
---|---|
Ganwyd | 26 Chwefror 1916 Abertawe |
Bu farw | 10 Chwefror 1999 o canser Glasgow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd, peiriannydd |
Priod | Samuel Curran |
Magwraeth a choleg
golyguFe'i ganed ar 26 Chwefror yn Abertawe, yn ferch i Charles Williams Strothers a oedd yn optegydd a'i wraig Margaret Beatrice, née Millington.[1] Yn Ysgol y Merched, yn Abertawe, y derbyniodd ei haddysg uwchradd cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Newnham, Caergrawnt.[2] Yn 1935, rhwyfodd i Glwb Merched y coleg,[3] yn y ras swyddogol gyntaf rhwng Caergrawnt a Rhydychen (yr Henley Boat Race).[4]
Derbyniodd radd gydag anrhydedd mewn ffiseg,[5] ond ni dderbyniodd y radd, gan nad oedd hawl gan ferched ar y pryd i'w dderbyn.[6]
Derbyniodd radd anrhydedd yn y gyfraith, pan oedd yn ei 70au gan Brifysgol Strathclyde.[5]
Gwaith
golyguDerbyniodd nawdd i astudio ar gyfer gradd pellach a throdd ei golygon tua Labordai Cavendish yng Nghaergrawnt, Sam Curran, gan weithio gydag ef mewn tîm dan arolygiaeth Philip Dee. Ar 7 Tachwedd 1940 priododd Joan a Sam Curran.
Yn 1944 fe wahoddwyd y ddau (Joan a Sam) i'r Unol Daleithiau fel rhan o Brosiect Manhattan, i weithiod ar y bom atomig.[7] Roedd llawer o ffisegwyr wedi ymgasglu i weithio o Galiffornia, gyda Mark Oliphant yn eu harwain. Eu gwaith oedd puro wraniwm drwy wahanu'r isotopau.[8] Mae wraniwm naturiol yn cynnwys 99.3% wraniwm-238 a 0.7% wraniwm-235, ond dim ond yr ail isotop ellir ei ddefnyddio i greu bom ac felly roedd yn rhaid darganfod dull i wahanu'r ddau. Gelwir hyn yn 'buro wraniwm' neu 'buro plwtoniwm'.[9] Cynhyrchwyd 50 kg o wraniwm 'pur' ar gyfer Little Boy, bom a ollyngwyd ar ddinas Hiroshima ar 6 Awst 1945 gan ladd 66,000 o bobol ac anafwyd oddeutu 69,000.[10]
Yno, yn Berkley, Califfornia rhoddodd enedigaeth i ferch, a anwyd â phroblemau meddyliol enbyd.[2] Yn ddiweddarach cawsant dri mab.[1]
- Wedi'r Rhyfel
Ar ddiwedd y Rhyfel, derbyniodd swydd Athro prifysgol Athroniaeth Naturiol ym Mhrifysgol Glasgow.[8] Yno, gyda ffrindiau'r teulu, sefydlodd 'Gymdeithas Plant gyda Phroblemau meddyliol' (Scottish Society for the Parents of Mentally Handicapped Children (byrfodd: Enable), a dyfodd i fod yn gymdeithas o dros gant o ganghennau ledled yr Alban, a 5,000 o aelodau.[2][5]
Rhwng 1955 a 1959 gweithiodd ei gŵr Sam i'r Atomic Weapons Research Establishment yn Aldermaston ar y bom hydrogen a dychwelodd ati i Glasgow yn 1959 fel Prifathro Coleg Brenhinol Gwyddoniaeth a Thechnoleg (a drodd yn ddiweddarach yn 'Brifysgol Strathclyde' - yn 1964, ac fe'i wnaed yn Brifathro ac Is-Ganghellor y brifysgol newydd.[11] Yr un pryd, sefydlodd Joan the Strathclyde Women's Group ac fe'i gwnaed yn Llywydd.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Fletcher, Bill. "Joan Elizabeth Curran, Lady Curran (1916–1999)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/71958.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Dalyell, Tam (19 February 1999). "Obituary: Joan Curran". The Independent. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
- ↑ NCBC Captain's log book (1935). Newnham College archives.
- ↑ "The BNY Mellon Boat Races - Origin". Boat Race Company. Cyrchwyd 15 March 2015.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Fletcher, Bill (16 February 1999). "Lady Curran". Herald Scotland. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|newspaper=
(help) - ↑ Chambers, Suzanna (31 May 1999). "At last, a degree of honour for 900 Cambridge women". The Independent. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|newspaper=
(help) - ↑ Turner, Robin (8 Ionawr 2015). "Swansea scientist Joan made a huge difference to the world and should not be forgotten". Wales Online. Cyrchwyd 3 May 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|newspaper=
(help) - ↑ 8.0 8.1 Fletcher 1999, tt. 100–101.
- ↑ Smyth 1945, tt. 154–156.
- ↑ The Manhattan Engineer District (29 Mehefin 1945). "The Atomic Bombings of Hiroshima and Nagasaki". Project Gutenberg Ebook. docstoc.com. t. 3. External link in
|publisher=
(help) - ↑ Fletcher 1999, tt. 102–103.