Joe Dunthorne

Nofelydd, bardd

Mae Joe Dunthorne (ganwyd 1982) yn nofelydd, bardd a newyddiadurwr o Gymru. Cafodd ei nofel gyntaf Submarine (2008) ei droi'n ffilm yn 2010. Enillodd ei ail nofel, Wild Abandon (2011), wobr RSL Encore. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi yn 2010 yng nghyfres New Poets gwasg Faber.[1]

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Joseph Oliver Dunthorne yn Abertawe ym 1982. Mae ganddo ddwy chwaer, Anna a Leah.[2] Aeth Dunthorne i Ysgol Gyfun yr Olchfa yn Abertawe[3] cyn astudio BA ac MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia.[4][5] Ym mlwyddyn olaf ei gwrs BA dechreuodd ysgrifennu ei nofel gyntaf, Submarine. Tra yr oedd yn astudio ar gyfer MA, enillodd Submarine wobr Curtis Brown gyntaf y brifysgol.

Erbyn hyn, mae Joe Dunthorne yn byw yn Llundain

Cyhoeddiadau golygu

Ffuglen golygu

  • 2008: Submarine, Hamish Hamilton
  • 2011: Wild Abandon, Penguin
  • 2018: The Adulterants Hamish Hamilton

Barddoniaeth golygu

  • 2010: Faber New Poets 5, Faber and Faber

Cyfeiriadau golygu

  1. Metcalfe, Anna (June 22, 2012). "Small talk: Joe Dunthorne". Financial Times. Cyrchwyd 17 July 2012.
  2. Joe Dunthorne, Submarine (2008), Acknowledgements, p.[291].
  3. thisissouthwales website, 20 November 2009
  4. University of East Anglia website
  5. University of East Anglia website; British Council website

Dolenni Allanol golygu