Ysgol Gyfun yr Olchfa
Ysgol uwchradd ym Mharc Sgeti, Sgeti, Abertawe yw Ysgol Gyfun yr Olchfa, hon yw'r ysgol uwchradd fwyaf yn Abertawe, De Cymru, gydag oddeutu 1900 o ddisgyblion. Darparir addysg uwchradd hyd at TGAU ac addysg trydyddol hyd at safon Lefel A.
Ysgol Gyfun yr Olchfa | |
---|---|
Arwyddair | Dysg Dawn Daioni |
Sefydlwyd | 1969 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Pennaeth | Mr H Davies |
Lleoliad | Heol Gŵyr, Abertawe, Sir Abertawe, Cymru, SA2 7AB |
AALl | Cyngor Dinas Abertawe |
Disgyblion | 1913 (Rhagfyr 2008) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Glas brenhinol, coch |
Gwefan | http://olchfa.org.uk/ |
Yn ôl Estyn, ar gyfartaledd mae 72% o ddisgyblion TGAU yn derbyn 5 gradd TGAU A*-C; sy'n gosod yr ysgol ar safle 19eg yng Nghymru, neu yn y 10% uchaf. Dyma ail ysgol orau Abertawe, ar y cyd gydag Ysgol Gyfun Gŵyr o ran perfformiad.[1]
Cyn-ddisgyblion o nôd
golygu- Daniel Alfei, chwaraewr pêl-droed Swansea City
- Simon Davey, rheolwr a chyn-chwaraewr pêl-droed
- Russell T Davies, llenor ar gyfer y teledu
- Andrew Dilnot, Warden Coleg Nuffield, Rhydychen
- Joe Dunthorne, bardd ac awdur[2]
- Stephen Harris, cerddor roc a adnabyddir fel Kid Chaos
- David Hemp, cricedwr
- Georgia Henshaw, actores
- Andrew Jones, sgriptiwr a chyfarwyddwr
- Heather Nicholson, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid
- Richie Rees, chwaraewr rygbi
- Eleanor Simmonds, nofwraig Paralympaidd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Adroddiad Estyn, dyddiad ???
- ↑ Shooting of movie adaptation surreal experience for writer. This is South Wales (20 Tachwedd 2009). Adalwyd ar 24 August 2011.