Sinn Féin

(Ailgyfeiriad oddi wrth Sinn Fein)

Mae Sinn Féin yn enw sydd wedi ei ddefnyddio gan nifer o bleidiau cenedlaethol Gwyddelig, bob un yn hawlio bod yn olynydd i'r blaid wreiddiol a ffurfiwyd gan Arthur Griffith yn 1905. Mae'r enw'n golygu "Ni'n hunain" mewn Gwyddeleg.

Sinn Féin
Sefydlydd Arthur Griffith
Llywydd Mary Lou McDonald
Is Lywydd Michelle O'Neill
Cadeirydd Declan Kearney
Ysgrifennydd Cyffredinol Dawn Doyle
Arweinydd y Seanad Niall Ó Donnghaile
Slogan "Building an Ireland of Equals"
Sefydlwyd
  • 28 Tachwedd 1905
    (ffurf wreiddiol)
  • 17 Ionawr 1970
    (ffurf gyfredol)
Pencadlys 44 Parnell Square, Dulyn 1, D01 XA36
Papur An Phoblacht
Asgell yr ifanc Ógra Shinn Féin
Rhestr o idiolegau Gweriniaetholdeb Gwyddelig
Cenedlaetholdeb asgell chwith
Sosialaeth ddemocrataidd
Sbectrwm gwleidyddol chwith-canol i canol
Grŵp yn Senedd Ewrop Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig
Dáil Éireann
37 / 160
Seanad Éireann
5 / 60
Cynulliad Gogledd Iwerddon
26 / 90
Tŷ'r Cyffredin
(seddi Gogledd Iwerddon)
7 / 18
(Ymatalwyr)
Senedd Ewrop
1 / 13
Llywodraeth leol yng Ngweriniaeth Iwerddon
80 / 949
Llywodraeth leol yng Ngogledd Iwerddon
105 / 462
Gwefan
sinnfein.ie

Arthur Griffith
Gerry Adams

Daeth llwyddiant etholiadol i'r blaid yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916. Pan ryddhawyd y rhai oedd yn weddill o arweinwyr y gwrthryfel yn 1917, daethant yn amlwg yn Sinn Féin, gyda Éamon de Valera yn cymryd lle Griffith fel arweinydd.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918, enillodd Sinn Féin 73 o'r 106 sedd yn Iwerddon, gan gymeryd lle'r Blaid Seneddol Wyddelig fel arweinwyr y mudiad cenedlaethol. Yn unol a pholisi'r blaid, gwrthododd yr aelodau gymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn hytrach, ar 21 Ionawr 1919, cyfarfu 30 o aelodau seneddol Sinn Féin (roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi eu carcharu) yn Nulyn a chyhoeddi eu hunain yn senedd Iwerddon - Dáil Éireann. Arweiniodd hyn at Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a sefydlu gwladwriaeth annibynnol Iwerddon.

Yn y cyfnod modern, mae'r enw'n cyfeirio fel rheol at y blaid a grewyd yn 1970 o ganlyniad i hollt yn y mudiad gweriniaethol yn Iwerddon. Yr arweinydd presennol yw Mary Lou McDonald. Sinn Féin yw'r fwyaf o'r pleidiau cenedlaethol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, gyda 26 sedd allan o 90. Mae gan y blaid 7 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin, ond ei pholisi, fel polisi Sinn Féin gwreiddiol Arthur Griffith, yw i'r aelodau wrthod cymryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yn etholiad cyffredinol 2020 Gweriniaeth Iwerddon, enillodd Sinn Féin 37 sedd allan o 160 yn Dáil Éireann, gan dderbyn y nifer a'r ganran uchaf o bleidleisiau Dewis Cyntaf. Dyma ogwydd o 10.7% a chynyddiad o seddi 2016 o 10. Gwelwyd hyn fel canlyniad syfrdanol oherwydd nid oedd enillydd clir gyda Sinn Féin, Fianna Fáil a Fine Gael yn dod yn agos iawn ac felly yn arwain at drafodaethau clymbleidiol. [1][2][3] Nid oedd Sinn Féin yn llwyddiannus o fod yn rhan o glymblaid ond yn hytrach daeth yn wrthblaid yr Dáil am y tro cyntaf ers dechreuad y ddeddfwrfa. Yn ôl arweinydd y Blaid Mary Lou McDonald roedd y blaid yn cael ei gwthio allan o'r trafodaethau clymblaid fel rhan o “glymblaid gyfleus”.[4]

Yn Senedd Ewrop, mae Sinn Féin yn aelod o'r grŵp seneddol Ewropeaidd y Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig.

ArweinwyrGolygu

Yn 1923, ffurfiodd rhan sylweddol o'r aelodaeth Cumann na nGaedheal
Yn 1926, ymddiswyddodd de Valera o Sinn Féin a sefydlu plaid Fianna Fáil
Yn 1970, ymrannodd yn ddwy blaid, y ddawy'n hawlio mai hwy oedd y gwir Sinn Féin
Yn 1986, gadawodd Ó Brádaigh a sefydlodd Sinn Féin Gweriniaethol.
 
Murlun Bobby Sands yn Belfast. Enillodd Sands, aelod o'r IRA a plaid Anti H-Block, sedd mewn isetholiad Fermanagh a De Tyrone. Mae'r adeilad sydd gyda'r murlun ar y ochor yn cynnwys swyddfa Sinn Féin.
 
O dan arweinyddiaeth wleidyddol Gerry Adams a Martin McGuinness, mabwysiadodd Sinn Féin bolisi diwygiadol, gan arwain yn y pen draw at Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.
 
Logo amgen - fersiwn glyff
 
Mary Lou McDonald a Michelle O'Neill ym mis Chwefror 2018

Canlyniadau etholiad cyffredinolGolygu

Gogledd IwerddonGolygu

Etholiadau deddfwrfa ddatganoledigGolygu

Etholiad Corff Seddi wedi ennill ± Safle Pleidleisiau dewis cyntaf % Llywodraeth Arweinydd
1921 Tŷ'r Cyffredin
6 / 52
  6   2il 104,917 20.5% Ymatal Éamon de Valera
1982 Cynulliad
5 / 78
  5   5ed 64,191 10.1% Ymatal Ruairí Ó Brádaigh
1996 Fforwm
17 / 110
  17   4ydd 116,377 15.5% Ymatal Gerry Adams
1998 Cynulliad
18 / 108
  18   4ydd 142,858 17.7% Rhannu pŵer (UUP-SDLP-DUP-SF)
2003
24 / 108
  6   3ydd 162,758 23.5% Rheoli Uniongyrchol
2007
28 / 108
  4   2il 180,573 26.2% Rhannu pŵer (DUP-SF-SDLP-UUP-AP)
2011
29 / 108
  1   2il 178,224 26.3% Rhannu pŵer (DUP-SF-UUP-SDLP-AP)
2016
28 / 108
  1   2il 166,785 24.0% Rhannu pŵer (DUP-SF-Ind. )
2017
27 / 90
  1   2il 224,245 27.9% Rhannu pŵer (DUP-SF-UUP-SDLP-AP)

Etholiadau San SteffanGolygu

Etholiad Seddi (yn Ogledd Iwerddon) ± Safle Nifer y pleidleisiau % (yng Ngogledd Iwerddon) % (yn DU) Arweinydd
1924
0 / 13
  Dim 34,181 0.2% Éamon de Valera
1950
0 / 12
  Dim 23,362 0.1% Margaret Buckley
1955
2 / 12
 2  4th 152,310 0.6% Paddy McLogan
1959
0 / 12
 2 Dim 63,415 0.2% Paddy McLogan
1983
1 / 17
 1  8th 102,701 13.4% 0.3% Ruairí Ó Brádaigh
1987
1 / 17
   6th 83,389 11.4% 0.3% Gerry Adams
1992
0 / 17
 1 Dim 78,291 10.0% 0.2%
1997
2 / 18
 2  8th 126,921 16.1% 0.4%
2001
4 / 18
 2  6th 175,933 21.7% 0.7%
2005
5 / 18
 1  6th 174,530 24.3% 0.6%
2010
5 / 18
   6th 171,942 25.5% 0.6%
2015
4 / 18
  1  6th 176,232 24.5% 0.6%
2017
7 / 18
 3  6th 238,915 29.4% 0.7%
2019
7 / 18
   6th 181,853 22.8% 0.6% Mary Lou McDonald
Canlyniadau yng Ngogledd Iwerddon mewn etholiadau cyffredinol y DU. Cynyddodd Sinn Féin nifer ei seddi o ddwy yn 1997 i bump yn 2005, pedair ohonyn nhw yn y gorllewin. Cadwodd ei bum sedd yn 2010, cafodd ei ostwng i bedair yn 2015 cynyddwyd i saith yn 2017 gan cadw'r nifer yma yn 2019.

Gweriniaeth IwerddonGolygu

Etholiadau Dáil ÉireannGolygu

Etholiad Seddi enillwyd ± Safle Pleidleisiau dewis cyntaf % Llywodraeth Arweinydd
1918

(San Steffan)
73 / 105
 73  1st 476,087 46.9% Datganiad Gweriniaeth Iwerddon Éamon de Valera
1921

(Ty Cyff De Iwerddon)
124 / 128
(wedi'i ethol yn ddiwrthwynebiad)
 51  1st
1922
58 / 128


(O Blaid Cytundeb)
N/A  1st 239,195 38.5% Llyw Lleiafrifol Michael Collins

(Pro-Treaty)
36 / 128


(Yn Erbyn Cytundeb)
N/A  2nd 135,310 21.8% Ymatal Éamon de Valera

(Anti-Treaty)
1923
44 / 153
 8  2nd 288,794 27.4% Ymatal Éamon de Valera
Mehefin1927
5 / 153
 39  6th 41,401 3.6% Ymatal John J. O'Kelly
1954
0 / 147
  Dim 1,990 0.1% Dim Seddi Tomás Ó Dubhghaill
1957
4 / 147
 4  4th 65,640 5.3% Ymatal Paddy McLogan
1961
0 / 144
 4 Dim 36,396 3.1% Dim Seddi
Chwefror 1982
0 / 166
  Dim 16,894 1.0% Dim Seddi Ruairí Ó Brádaigh
1987
0 / 166
  Dim 32,933 1.9% Dim Seddi Gerry Adams
1989
0 / 166
  Dim 20,003 1.2% Dim Seddi
1992
0 / 166
  Dim 27,809 1.6% Dim Seddi
1997
1 / 166
 1  6th 45,614 2.5% Gwrthblaid
2002
5 / 166
 4  6th 121,020 6.5% Gwrthblaid
2007
4 / 166
 1  5th 143,410 6.9% Gwrthblaid
2011
14 / 166
 10  4th 220,661 9.9% Gwrthblaid
2016
23 / 158
 9  3rd 295,319 13.8% Gwrthblaid
2020
37 / 160
 15  2nd 535,595 24.5% Gwrthblaid Mary Lou McDonald

CyfeiriadauGolygu

  1. "Fianna Fáil yn trechu Sinn Fein yn y ras i fod yn brif blaid Iwerddon". Golwg360. 2020-02-11. Cyrchwyd 2020-07-26.
  2. "Sinn Fein yn cyhuddo Fianna Fáil o haerllugrwydd". Golwg360. 2020-02-15. Cyrchwyd 2020-07-26.
  3. "Sinn Féin tops poll in Irish general election". BBC News (yn Saesneg). 2020-02-10. Cyrchwyd 2020-07-26.
  4. ""Un o'r anrhydeddau mwyaf" i Micheal Martin, Taoiseach newydd Iwerddon". Golwg360. 2020-06-27. Cyrchwyd 2020-07-26.

Gweler hefydGolygu