Plaid Lafur Iwerddon

Mae Plaid Lafur Iwerddon (Gwyddeleg: Páirtí an Lucht Oibre; Saesneg: Labour Party) yn blaid sosialaidd-ddemocrataidd yn Ngweriniaeth Iwerddon. Sefydlwyd hi ym 1912 yn nhref Clonmel, Sir Tipperary, gan James Larkin, James Connolly a William X. O'Brien fel adain wleidyddol Cyngres Undebau Llafur Iwerddon.[5]

Labour Party
Páirtí an Lucht Oibre
ArweinyddBrendan Howlin TD
SefydlyddJames Connolly
James Larkin
William X. O'Brien
Seanad LeaderSenator Ivana Bacik
Cadeirydd y blaid seneddolWillie Penrose TD
CadeiryddJack O'Connor
Ysgrifennydd CyffredinolBrian McDowell
Sefydlwyd1912 (1912)
Pencadlys11 Hume Street, Dulyn 2, D02 T889, Ireland
Asgell yr ifancLabour Youth
Women's wingLabour Women
Rhestr o idiolegauSocial democracy[1][2][3][4]
Pro-Europeanism
Sbectrwm gwleidyddolchwith i'r canol
Partner rhyngwladolProgressive Alliance,
Socialist International
Cysylltiadau EwropeaiddParty of European Socialists
Grŵp yn Senedd EwropProgressive Alliance of Socialists and Democrats
LliwCoch
Dáil Éireann
7 / 158
Seanad Éireann
4 / 60
European Parliament
0 / 11
Local government
50 / 949
Gwefan
labour.ie

Yn wahanol i bob un o brif bleidiau eraill y Weriniaeth, ni dyfodd y Blaid Lafur allan o rwyg ymysg rhengoedd plaid Sinn Féin, er i’r blaid lyncu plaid y Chwith Democrataidd Iwerddon yn 1999, oedd â’i gwreiddiau yn Sinn Féin.

Mae’r blaid wedi rheoli fel partneriaid iau mewn clymbleidiau yn llywodraeth Dáil Éireann saith gwaith ers ei sefydlu: chwech gwaith mewn clymblaid gyda Fine Gael ar ben ei hun neu gyda Fine Gael a phleidiau llai eraill, ac unwaith gyda phlaid Fianna Fáil. Mae wedi rheoli felly 19 mlynedd fel rhan o llywodraeth, yr ail hiraf o blith pleidiau’r Weriniaeth ar ôl Fianna Fail. Llafur, yn draddodiadol yw trydydd plaid fwyaf y wladwriaeth. Mae’r Blaid Lafur yn aelod o’r Progressive Alliance, Socialist International, a Phlaid Sosialwyr Ewrop (PES).

Sefydlu golygu

 
Cofeb James Connolly, Dulyn

Sefydlodd James Connolly, James Larkin and William X. O'Brien Blaid Lafur Iwerddon yn 1912 fel adain wleidyddol Cyngres Undebau Llafur Iwerddon er mwyn cynrychioli eu buddiannau yn Senedd Iwerddon a ddisgwylid ei sefydlu yn dilyn Trydydd Deddf Hunan-lywodraeth Iwerddon 1914. Ond, yn dilyn curo’r undebau llafur yn ‘lock out’ enwog Dulyn yn 1913 gwanhawyd y mudiad ac yn 1914 ymfudodd James Larkin a dienyddiwyd James Connolly wedi Gwrthryfel y Pasg 1916.

Sefydlwyd Byddin Dinasyddion Iwerddon, yr Irish Citizen Army (ICA) yn ystod y lockout,[6] a dyma oedd cangen filwrol anffurfiol y mudiad llafur. Cymerodd yr ICA ran yng Ngwrthryfel 1916[7] a chymrodd y Cynghorydd Richard O'Carroll, aelod Llafur o Gorfforaeth Dulyn (cyngor y ddinas). Saethwyd O'Carroll a bu farw ar 5 Mai 1916.[8] Atgyfodwyd yr ICA yn ystod cyfnod Peadar O'Donnell's a phlaid lled-gomiwnyddol weriniaethol, Republican Congress ond wedi rhwyg yn 1935 ymunodd y rhan fwyaf o’r ICA gyda’r Blaid Lafur. Bu Plaid Lafur Prydain yn weithredol yn yr Iwerddon, ond wedi 1913 penderfynodd Pwyllgor Ganolog y Blaid i gytuno mai Plaid Lafur Iwerddon fyddai â’r hawl i weithredu a threfnu ar draws Iwerddon. Gwrthwynebodd grŵp o undebwyr llafur Belffast i hyn a sefydlwyd y Belfast Labour Party a ddaeth yn gnewyllyn i sefydlu Plaid Lafur Gogledd Iwerddon, a oedd ar wahân i Blaid Lafur Iwerddon.

Annibyniaeth Iwerddon golygu

Safodd y Blaid Lafur ddim yn etholiad bwysig 1918 i’r Dáil Éireann gyntaf. Gwnaethpwyd hyn er mwyn i’r etholiad ganolbwyntio ar gwestiwn annibyniaeth Iwerddon ac i Sinn Féin (y blaid weriniaethol dros annibyniaeth) i ennill yr etholiad.[9] Safodd y blaid ddim yn etholiad 1921 i’r Dail chwaith. O ganlyniad, doedd y Blaid Lafur a’i daliadau ddim yn rhan ganolog o sefydlu’r wladwriaeth newydd.

Gwladwriaeth Rydd Iwerddon golygu

Fel pob rhan o gymdeithas Iwerddon rhannodd Cytundeb Eingl-Wyddelig Rhagfyr 1921 Blaid Lafur Iwerddon. Ochrodd rhai gyda’r Cytundeb a rhai yn erbyn. Hybodd O’Brien a Johnson i’w haelodau gefnogi’r Cytundeb. Yn Etholiad Gyffredinol gyntaf Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922 fe enillodd y Blaid 17 sedd. Bu sawl streic yn ystod y flwyddyn honno gan arwain I’r Blaid yn colli seddi yn etholiad gyffredinol 1923 gan gwympo i 14 sedd. Bu’r Blaid yn brif wrthwynebwyr plaid asgell dde y llywodraeth, Cumann na nGaedhael nes blaid newydd Eamon de Valera, Fianna Fáil gymryd eu seddi yn 1927. Yn 1932 aeth Llafur i lywodraeth am y tro cyntaf fel y blaid leiaf mewn clymblaid gyda Fianna Fáil.

Roedd y blaid yn llawer mwy gymdeithasol geidwadol na phleidiau sosialaidd eraill Ewrop, a rhwng 1932 ac 1977 roedd ei harweinwyr, (William Norton a’i olynydd, Brendan Corish) yn aelodau o urdd Marchogion Sant Columbanus, urdd Gatholig geidwadol.

Uchafbwyntiau Nodweddiadol golygu

Bu i’r Blaid rhai arweinwyr neu aelodau nodweddiadol a bu’n adlewyrchiad ac yn rhan o newid agweddau pobl Gweriniaeth Iwerddon at faterion cymdeithasol a chyfansoddiadol.

Arlywydd Benywaidd Gyntaf Iwerddon golygu

 
Mary Robinson, 2014

Yn 1990 etholwyd Mary Robinson yn Uachtarán na hÉireann, Arlywydd Iwerddon benywaidd cyntaf Iwerddon a’r un cyntaf ers yr Arlywydd gyntaf, Douglas Hyde nad oedd yn aelod o Fianna Fail.

Er i Robinson fod yn aelod o’r Blaid Lafur fe ymddiswyddodd o’r blaid oherwydd ei gwrthwynebiad i safbwynt Llafur ar Gytundeb Eingl-Wyddelig 1985 oherwydd iddi gredu y dylasai Unoliaethwyr Ulster fod wedi cael rhan ar y Cytundeb. Safodd etholiad yr Arlywyddiaeth fel annibynwraig, ond cafodd gefnogaeth y Blaid Lafur. Yn ystod ei chyfnod hyrwyddwyd daliadau cymdeithasol oedd yn fwy rhyddfrydig i’r norm Wyddelig, Gatholig ac yn agosach at ddaliadau’r Blaid Lafur.

Dick Spring golygu

Bu’n Tánaiste, Dirprwy Brif Weindiog, mewn dau lywodraeth. Y gyntaf oedd y 23ain Dáil, gyda Fianna Fáil yn 1993 – 1994 ac Albert Reynolds yn Taoiseach (Prif Weindog). Yr ail wedyn oedd, 24ain Dail, gyda Fine Gael a’r Chwith Democrataidd yn 1994-1997. Chwaraeodd rhan yn hyrwyddo cymod a phroses heddwch gyda llywodraeth Prydain ar ddyfodol Gogledd Iwerddon.

Arlywyddiaeth Michael D. Higgins golygu

Etholwyd Michael D. Higgins yn 9fed Arlywydd Iwerddon yn 2011. Cyn hynny bu’n Teachta Dála i’r Blaid Lafur ac yn Weinidog Celfyddydau, Diwylliant a’r Gaeltacht 1993-1997. Yn ystod ei gyfnod cafodd wared ar Section 31 o’r Ddeddf Ddarlledu, ail-sefydlodd Bwrdd Ffilm Iwerddon a sefydlodd Teilifís na Gaeilge (a adnebir bellach fel TG4) [10] sef, y sianel deledu Wyddeleg ei hiaith a ysbrydolwyd gan lwyddiant S4C.

Arweinwyr y Blaid golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Nordsieck, Wolfram (2016). "Ireland". Parties and Elections in Europe.
  2. Richard Dunphy (2015). "Ireland". In Donatella M. Viola (gol.). Routledge Handbook of European Elections. Routledge. t. 247. ISBN 978-1-317-50363-7.
  3. Dimitri Almeida (2012). The Impact of European Integration on Political Parties: Beyond the Permissive Consensus. CRC Press. t. 61. ISBN 978-1-136-34039-0.
  4. Richard Collin; Pamela L. Martin (2012). An Introduction to World Politics: Conflict and Consensus on a Small Planet. Rowman & Littlefield. t. 218. ISBN 978-1-4422-1803-1.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-13. Cyrchwyd 2018-09-26.
  6. https://web.archive.org/web/20150202164329/http://flag.blackened.net/revolt/cc1913/ica.html
  7. http://www.bbc.co.uk/history/british/easterrising/profiles/po14.shtml
  8. https://web.archive.org/web/20150518231102/https://richardocarroll1916.wordpress.com/about/
  9. https://www.electionsireland.org/results/general/01dail.cfm
  10. https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-15500225