John Burningham
Darlunydd ac awdur llyfrau plant Seisnig yw John Burningham (ganed 27 Ebrill 1936).[1]
John Burningham | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ebrill 1936 Farnham |
Bu farw | 4 Ionawr 2019 o niwmonia Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, darlunydd, sgriptiwr, awdur plant |
Priod | Helen Oxenbury |
Gwobr/au | Medal Kate Greenaway, Medal Kate Greenaway |
Gwefan | http://johnburningham.com/biography/ |
Bywgraffiad
golyguGaned Burningham yn Farnham, Surrey, Lloegr[2] yn fab i Charles a Jessie (Mackintosh) Burningham.[3] Ymunodd â'r Friends' Ambulance Unit ym 1953.[3] Yn 20 oed, mynychodd y Central School of Art a graddiodd ym 1959.[4] Wedi gweithio ar amryw o bosteri ar gyfer London Transport a British Transport a ffilmiau animeiddedig,[3] dechreuodd ei yrfa ym 1963 [5] gyda'r llyfr Borka: The Adventures of a Goose With No Feathers[6] a enillodd Fedal Kate Greenaway yr un flwyddyn.[2]
Priododd Burningham y darlunydd Helen Gillian Oxenbury ym 1964,[3] a parhaodd i ysgrifennu. Enillodd ei lyfr Mr. Gumpy's Outing Fedal Kate Greenaway Medal am yr eilwaith ym 1970. Mae wedi cyfrannu dros 60 o lyfrau i lenyddiaeth plant,[4] ac mae wedi derbyn nifer o wobrau,[7] gan gynnwys Deutscher Jugendliteraturpreis 1980. Seilwyd ffilm Granpa 1989 ar ei lyfr 1984 o'r un enw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bloomsbury.com - Bloomsbury Author Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-15. Cyrchwyd 2011-06-10.
- ↑ 2.0 2.1 John Burningham. Walker Books.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 John Burningham. Greenville Public Library.
- ↑ 4.0 4.1 John Burningham. British Council: Contemporary Writers.
- ↑ John Burningham. The British Library.
- ↑ Borka - The Adventures of a Goose With No feathers - 40th Anniversary Edition. Biblio.com.
- ↑ John (Mackintosh) Burningham (1936-). biography.jrank.org.