Helen Oxenbury
Darlunydd llyfrau plant Seisnig yw Helen Gillian Oxenbury (ganed 2 Mehefin 1938).[1] Mae'n adnabyddus am ei gwaith ar nifer helaeth o lyfrau ac am ennill nifer fawr o wobrau am ei darlunio.
Helen Oxenbury | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mehefin 1938, 1940 Ipswich, Suffolk |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, darlunydd, awdur plant |
Priod | John Burningham |
Gwobr/au | Medal Kate Greenaway, Gwobr Llyfrau Plant Nestlé, Gwobr Llyfrau Plant Nestlé, Medal Kate Greenaway |
Magwyd Oxenbury yn Ipswich, Suffolk, Lloegr,[2] Mae wedi mwynhau darlunio ers bu'n ifanc iawn, ac aeth ymlaen i fynychu coleg celf yn ei harddegau a gweithiodd yn Ipswich Repertory Theatre Workshop, yn cymysgu paent yn ei hamser sbar.[3] Dechreuodd yrfa mewn theatr, ffilm a theledu. Priododd y darlunydd llyfrau plant John Burningham, a throdd hithau ei llaw at ddarlunio llyfrau plant hefyd. Mae'r pâr yn byw yng ngogledd Llundain.[4]
Ym 1988, crëodd Oxenbury gyfres o lyfrau am fachgen bach drygionus o'r enw Tom, a'i gyfaill, tegan mwnci meddal o'r enw Pippo. Mae wedi dweud fod cymeriad Tom yn debyg iawn i gymeriad ei mab pan yr oedd ef yr oed hwnnw. Bu ei mab yn aml yn rhoi'r bai am ei ddrygioni ar y ci, yn yr un modd a byddai Tom yn rhoi'r bai ar Pippo.[5] Mae gyrfa Oxenbury yn ymestyn dros 40 o flynyddoedd, ac mae'n dal i ddarlunio llyfreu plant hyd heddiw. Ei gwaith diweddaraf yw The Growing Story yn rhifyn Medi 2008 o gylchgrawn StoryBox a gyhoeddir gan Bayard Presse.
Llyfryddiaeth
golyguMae rhestr hir o'i gweithiau'n cynnwys:
- The Quangle Wangle's Hat, gan Edward Lear (enillydd Medal Kate Greenaway, 1969)
- The Dragon of an Ordinary Family, gan Margaret Mahy (enillydd Medal Kate Greenaway, 1969)
- Cakes and Custard, casgliad o rigymau plant a gasglwyd gan Brian Alderson, 1975
- We’re Going on a Bear Hunt, by Michael Rosen (enillydd Nestlé Smarties Book Prize, 1989)
- Farmer Duck, by Martin Waddell (enillydd Nestlé Smarties Book Prize, 1991;[6] Illustrated Children's Book of the Year, British Book Awards, 1992)
- The Three Little Wolves and the Big Bad Pig, gan Eugene Trivizas, 1993
- So Much, by Trish Cooke (enillydd Nestlé Smarties Book Prize, 1994; Gwobr Kurt Maschler, 1994)
- I Can, by Helen Oxenbury, 1995 (llyfr bwrdd i fabanod)
- Tickle, Tickle, by Helen Oxenbury (enillydd Gwobr Booktrust Early Years, 1999)
- Alice’s Adventures in Wonderland, gan Lewis Carroll (enillydd Medal Kate Greenaway, 1999)[7]
- Big Momma Makes the World, gan Phyllis Root (enillydd Boston Globe-Horn Book Award, 2003)
- Ten Little Fingers and Ten Little Toes, gan Mem Fox, 2008
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teacher's Calendar of Events. Education Oasis (Mehefin 2011).
- ↑ Helen Oxenbury at Walker Books
- ↑ Interview with Helen Oxenbury. BooksforKeeps.
- ↑ Helen Oxenbury. Fresh Fiction.
- ↑ Helen's 'Tom and Pippo' book range. LibraryPoint.org.
- ↑ Helen's Nestlé Smarties Book Prize listing at A1-WDB[dolen farw]
- ↑ Full List of Winners. Kate Greenaway Awards.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan ei cyhoeddwyr, StoryBox Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback