John Caerenig Evans

Gweinidog ac arweinydd cymdeithasol oedd John Caerenig Evans (20 Ebrill 1837 – Rhagfyr 1913).

John Caerenig Evans
Ganwyd1837 Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg golygu

Cafodd John Caerenig Evans ei eni ar 20 Ebrill 1837 yn Llanddewisol ym mhlwyf Llanfihangel Aberbythych Sir Gaerfyrddin. Bu ei dad, Philip, farw mewn damwain pwll glo ac fe'i gladdwyd yn Llandybïe ar 16 Mai 1840 yn 44 oed. Er hyn, gweithiodd John fel glöwr o naw oed tan yn chwech-ar-ugain oed. Cafodd ei dderbyn fel myfyriwr yng Ngholeg Caerfyrddin yn 1863 ac astudiodd yno am bedair blynedd. Cafodd ei ordeinio ar 28 Awst 1867 yn Weinidog Capel Moriah, Cwmaman, Aberdâr. Bu'n allweddol, fel gweinidog poblogaidd, i ddylanwadu ar ei gynulleidfa ac ar eraill yn yr ardal, gan sôn wrthynt am y cyfle oedd ar gael i ymfudo i Batagonia a gwneud bywyd gwell iddynt hwy a'u teuluoedd. Dyma gyfnod pan bydde cynulleidfaoedd yn rhoi pwyslais mawr ar yr hyn bydde gweinidogion yn ei ddweud, ac yn gweithredu ar yr hyn byddent yn awgrymu a/neu'n cynghori.

Symud i'r Wladfa golygu

Gyda'i wraig, Hannah Harries, a thri o blant bach aeth John Caerenig Evans ei hun i Batagonia yn 1874. Cafodd pump o blant eraill eu geni ym Mhatagonia. Yn 1875 dilynodd lawer iawn o gynulleidfa J.C. Evans ef yno ac mae hyn yn arwydd o'i boblogrwydd a'i ddylanwad fel gweinidog. Bu'n allweddol yn rhoi gwasanaeth gwerthfawr i'r Wladfa yn ystod y blynyddoedd anodd, arloesgar cynnar, ac ef a David D. Roberts oedd y cyntaf i fynd i fyw yn ardal y Gaiman. Dechreuodd Ysgol Sul yn ei gartref ym mis Tachwedd 1874 a bu'n pregethu mewn amryw o dai yn yr ardal am flwyddyn. Yn Awst 1876 sefydlwyd Capel Cynulleidfaol Bethel yn y Gaiman a J.C. Evans oedd y gweinidog cyntaf. Gydag adeiladaeth y camlesi daeth profiad J.C. Evans fel glöwr yn werthfawr ym mlynyddoedd cynnar y Wladfa. Roedd yn gweithio'n galed yn ystod yr wythnos ac yn pregethu'n ddi-dâl neu bron yn ddi-dâl ar y Suliau. Cafodd ei ethol yn Ynad Heddwch yn etholiad 30 Gorffennaf, 1886. Rhoddodd ddarn o dir am ddim er mwyn adeiladu ysbyty, ac fel anrhydedd a pharch iddo, fe'i galwyd yn Ysbyty J. C. Evans. Bu'n weinidog am dros hanner cant o flynyddoedd a bu farw yn Rhagfyr 1913 yn 77 oed. Roedd ei wraig, Hannah, eisoes wedi marw ar 4 Awst, 1911.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Companion to the Welsh Settlement in Patagonia. Eirionedd A. Baskerville, 2014. Cymdeithas Cymru Ariannin

Gwefanau allanol golygu

Hafan Cymdeithas Cymru-Ariannin Archifwyd 2015-08-23 yn y Peiriant Wayback.