John Constable
arlunydd, drafftsmon, paentiwr tirluniau (1776-1837)
Arlunydd Seisnig oedd John Constable (11 Mehefin 1776 – 31 Mawrth 1837). Daeth yn enwog fel arlunydd tirluniau yn y traddodiad Rhamantaidd.
John Constable | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1776 East Bergholt, Suffolk |
Bu farw | 31 Mawrth 1837 Charlotte Street, Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd, paentiwr tirluniau, drafftsmon, artist |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Salisbury Cathedral from the Meadows, Salisbury Cathedral from the Bishop's Grounds, Dedham Lock and Mill |
Arddull | celf tirlun, celf genre, celf y môr, portread, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd |
Mudiad | realaeth, Rhamantiaeth |
Tad | Golding Constable |
Mam | Ann Watts |
Priod | Maria Bicknell |
Plant | Charles Golding Constable, Lionel Bicknell Constable, Isabel Constable |
Gwobr/au | Academydd Brenhinol |
Ganed ef yn East Bergholt, pentref ar Afon Stour yn Suffolk. Mae ei ddarluniau enwocaf yn cynnwys Dedham Vale (1802), Flatford mill (1817) a The Hay Wain (1821). Ni fu'n arbennig o lwyddiannus yn ei oes, a dywedir iddo werthu mwy o luniau yn Ffrainc nag yn Lloegr, er iddo gael ei ethol yn aelod o'r Academi Frenhinol yn 52 oed.