John Denham
Bardd a llenor o Sais oedd Syr John Denham (1615 - 10 Mawrth 1669). Wrth gyfieithu yr Enid gan Fyrsil o'r Lladin i Saesneg, defnyddiodd ddulliau o gyfieithu rhydd. Roedd Denham yn frenhinwr tanbaid a defnyddiodd y cyfieithiad hwn i hyrwyddo'i agenda gwleidyddol.
John Denham | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1615 ![]() Dulyn ![]() |
Bu farw | 19 Mawrth 1669 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, bardd-gyfreithiwr, gwleidydd, cyfreithiwr ![]() |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1661-79 Parliament ![]() |
Priod | Ann Cotton ![]() |
Plant | Anne Morley ![]() |
Gwobr/au | Marchog Faglor, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Ailysgrifenodd Denham lawer o waith gwreiddiol Fyrsil a'i addasu at ei ddefnydd ei hun, er enghraifft, yn Llyfr II, newidiodd Denham yr enw Priam gan ddefnyddio "the King" yn unig fel y gallai ei gynulleidfa Seisnig uniaethu â'r sefyllfa. Gellir gweld tebygrwydd rhwng dienyddiad Priam a Siarl I. Gwaneth hefyd adael cymeriadau ac enwau llefydd allan a fyddai'n gosod y stori'n amlwg y tu allan i Loegr. Cafwyd fersiwn arall o'r un testun ym 1656, yn fersiwn fwy rhugl.