John Dillwyn Llewelyn

ffotograffydd, botanegydd (1810-1882)
(Ailgyfeiriad o John Dillwyn Llewellyn)

Botanegydd a ffotograffydd cynnar Cymreig oedd John Dillwyn Llewelyn, ganed John Dillwyn (12 Ionawr 1810 - Awst 1882; ceir hefyd y ffurf John Dillwyn-Llewelyn weithiau).

John Dillwyn Llewelyn
Ganwyd12 Ionawr 1810 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 1882, 24 Awst 1882 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylPenlle'r-gaer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd, botanegydd Edit this on Wikidata
TadLewis Weston Dillwyn Edit this on Wikidata
MamMary Adams Edit this on Wikidata
PriodEmma Thomasina Llewelyn Edit this on Wikidata
PlantEmma Charlotte Dillwyn-Llewelyn, Ellinor Amy Dillwyn-Llewelyn, Lucy Catharine Dillwyn-Llewelyn, Thereza Dillwyn Llewelyn, John Talbot Dillwyn Llewellyn Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Abertawe, yn fab hynaf Lewis Weston Dillwyn a Mary (cynt Adams née Llywelyn). Etifeddodd blasdy ei daid ar ochr ei fam, John Llewelyn, ym Mhenlle'r-gaer ac Ynysygerwn, a chymerodd y cyfenw ychwanegol Llewelyn. Addysgwyd ef yn breifat ac yn Rhydychen. Brawd iddo oedd Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892) a daeth yn Aelod Seneddol Abertawe a chwaer iddo oedd ffotograffydd arloesol Mary Dillwyn (1816-1906)

Ffotograffiaeth golygu

Yn Ionawr 1839, yn dilyn cyhoeddiadau am brosesau ffotograffig gan William Henry Fox Talbot, oedd yn berthynas i'w wraig, a Louis Jacques Mandé Daguerre, dechreuodd Dillwyn Llewelyn arbrofi. Y broses gyntaf iddo'i ymarfer oedd daguerreotype ond ni chredir i'r un llun oroesi'r blynyddoedd. Mae rhai o'i luniau o brosesau eraill wedi goroesi, fodd bynnag e.e. ceir sawl llun cliché verre a miloedd o luniau calotype a negyddion "collodion".

Roedd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, ac yn aelod amlwg ohoni. Roedd yn ffotograffydd tirluniau nodedig, gan ganolbwyntio ar yr ardal o gwmpas Penlle'r-gaer ac ar arfordir Cymru.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu