Lewis Weston Dillwyn
Roedd Lewis Weston Dillwyn, FRS (21 Awst 1778 – 31 Awst 1855) yn wneuthurwr porslen, yn naturiaethwr ac yn Aelod Seneddol.[1][2]
Lewis Weston Dillwyn | |
---|---|
Ganwyd | 21 Awst 1778 Ipswich |
Bu farw | 31 Awst 1855 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | botanegydd, gwleidydd, arbenigwr mewn ceffalapodau, naturiaethydd, malacolegydd, person busnes |
Swydd | Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | William Dillwyn |
Mam | Sarah Weston |
Priod | Mary Adams |
Plant | Mary Dillwyn, Lewis Llewelyn Dillwyn, John Dillwyn Llewelyn, Fanny Llewelyn Dillwyn |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
Cefndir
golyguCafodd Dillwyn ei eni yn Walthamstow, Essex, yn fab hynaf William Dillwyn (1743-1824) a Sarah Dillwyn (née Weston). Roedd ei dad yn Grynwr o Pennsylvania a oedd wedi dychwelyd i wledydd Prydain ym 1777 i ffoi Rhyfel Annibyniaeth America gan ymsefydlu yn Walthamstow, Essex. Roedd William Dillwyn yn ymgyrchydd gwrth gaethwasiaeth pybyr a bu ar daith drwy Gymru a Lloegr ar ran y Pwyllgor Gwrth Gaethwasiaeth.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol y Crynwyr yn Tottenham, ac yn 1797 aeth i Dover i astudio botaneg.
Priododd Mary Adams, merch y Cyrnol John Llewelyn Penlle'r-gaer, Llangyfelach ym 1807. Bu iddynt chwech o blant, gan gynnwys y ffotograffydd nodedig John Dillwyn Llewelyn (1810-1882), Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892) a daeth yn Aelod Seneddol Abertawe a'r ffotograffydd arloesol Mary Dillwyn (1816-1906).
Bu'r teulu yn byw yn Neuadd y Sgeti, Abertawe
Gwaith
golyguYm 1802 daeth Dillwyn yn bartner yng Nghrochenwaith y Cambrian yn Abertawe gan ddod yn berchennog y cwmni cyfan ym 1810. Ym 1811 fe aeth a'r cwmni i mewn i bartneriaeth gyda chwmni T.& J. Bevington gan greu cwmni Dillwyn & Co, ym 1814 prynodd Dillwyn & Co Gwaith Porslen Nantgarw. Roedd y cwmni'n cynhyrchu crochenwaith a phorslen cywrain, sydd, hyd heddiw, yn cael ei werthfawrogi gan gasglwyr am ei ansawdd uchel.[3]
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd Dillwyn ei benodi’n Uchel Siryf Morgannwg ym 1818 a chafodd ei ethol i'r Senedd Ddiwygiedig Gyntaf ym 1832 fel AS Sir Forgannwg gan wasanaethu am ddau dymor cyn sefyll i lawr ym 1837. Cafodd ei ethol yn Faer Abertawe ym 1839.
Y Naturiaethwr
golyguRoedd Lewis Weston Dillwyn hefyd yn adnabyddus am ei weithiau cyhoeddedig ar fotaneg ac astudiaethau o bysgod cregyn,[4] Ymhlith ei gyhoeddiadau mae:
- Natural History of British Confervae (1802-9)
- Botanist's Guide through England and Wales, ar y cyd a Dawson Turner (1805)
- A Descriptive Catalogue of British Shells (1817)
- A review of the references to the Hortus malabaricus of Henry Van Rheede Van Draakenstein (1839)
- Hortus Collinsonianus (1843)
- An Index to the Historia Conchyliorum of Lister (Oxford, 1923)
Ym 1840 cyhoeddodd llyfryn ar hanes Abertawe.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiaduron Dillwyn yn LLGC [1] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Mehefin 2015
- ↑ Dillwyn, Lewis Weston (DNB00)
- ↑ Disgrifiad o'r Casgliad Ceramic, Prifysgol Cymru Aberystwyth, [2] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Mehefin 2015
- ↑ Amgueddfa Cymru [3][dolen farw] adalwyd Mehefin 26 2015]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Christopher Rice Mansel Talbot |
Aelod Seneddol Sir Forgannwg 1832 – 1837 |
Olynydd: Edwin Wyndham-Quin |