John FitzGerald
Offeiriad Catholig a bardd o Loegr oedd Y Tad John FitzGerald (3 Chwefror 1927 - 28 Tachwedd 2007). Un o ardal Llwydlo cafodd ei fedyddio yn Michael FitzGerald ond dewisodd yr enw John wrth ymuno ag Urdd y Carmeliaid yn 1942. Dysgodd Gymraeg yn Aberystwyth, dan law Saunders Lewis i ddechrau. Bu'n gaplan i fyfyrwyr Catholig ac yn offeiriad tref Aberystwyth am ddeugain mlynedd. Gorchmynodd yr Urdd iddo symud o Aberystwyth i Lanelli yn 2004.
John FitzGerald | |
---|---|
Ganwyd | 1927 |
Bu farw | 2007 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | athronydd, bardd, offeiriad |