John Miles

pregethwr Piwritanaidd, a phrif arweinydd y Bedyddwyr Neilltuol

Arweinydd crefyddol a chefnogwr Piwritaniaeth oedd John Miles neu John Myles (1621 - 1683). Cafodd ei eni yn Clifford, Swydd Henffordd, mewn ardal a oedd yr adeg honno yn bur Gymraeg o hyd er ei bod yn gorwedd dros y ffin yn Lloegr.

John Miles
Ganwyd1621 Edit this on Wikidata
Cymru, Clifford, Swydd Henffordd Edit this on Wikidata
Bu farw3 Chwefror 1683 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Daeth Miles yn arweinydd pwysig gyda'r Bedyddwyr cynnar a adnabyddir fel Bedyddwyr Caeth neu Neilltuol. Cafodd ei addysg brifysgol yn Mhrifysgol Rhydychen. Roedd ganddo gysylltiadau clos â Chymru, er nad oes prawf ei fod yn medru'r Gymraeg. Bu'n un o'r cynorthwywyr a anfonwyd i Gymru ar ôl pasio Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1650), ynghyd â Morgan Llwyd, Vavasor Powell ac eraill.

Nid oedd Miles yn cymeradwyo'r ymenwadu a noddweddai cyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr a chadwai allan o ddadleuon gwleidyddol y dydd. Serch hynny, cafodd ei droi allan o'i weinidogaeth ar ôl yr Adferiad dan Siarl II o Loegr, a threuliodd ei ddyddiau olaf yn alltud ym Massachusetts lle sefydlodd eglwys yn 1667 a'i galw yn Swanzey ('Swansea').