Clifford, Swydd Henffordd
Pentref bychan yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Clifford. Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir o fewn hanner milltir o'r ffin rhwng Cymru (Powys) a Lloegr, tua 2 filltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain o'r Gelli Gandryll, Powys.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
Poblogaeth | 557 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.1047°N 3.1025°W |
Cod SYG | E04000727 |
Cod OS | SO243457 |
Cod post | HR3 |
Gorwedd y pentref ar lan ddeheuol Afon Gwy. Mae'n lleoliad strategol a dyna pam y codwyd Castell Clifford ger y safle gan y Normaniaid. I'r de cyfyd bryn Cefn (Cefn Hill), a ddynodai terfyn ogleddol arglwyddiaeth Gymreig Ewias.