Vavasor Powell

diwinydd Piwritanaidd

Pregethwr o Biwritan ac awdur ar bynciau crefyddol yn yr iaith Saesneg oedd Vavasor Powell (1617 - 27 Hydref 1670). Cafodd ei eni ym mhentref Cnwclas ym Maldwyn, Powys. Meddai R. Tudur Jones amdano: 'Diau fod iddo'i le arhosol yn y gyfres hir o wrthryfelwyr a phrotestwyr sydd wedi cyfrannu tuag at gyfoeth ein bywyd cenedlaethol trwy'r canrifoedd.' Bu'n un o'r 25 cynorthwywyr a anfonwyd i Gymru ar ôl pasio Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru yn 1650.

Vavasor Powell
Ganwyd1617 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Cnwclas Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 1670 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpregethwr Edit this on Wikidata

Gwreiddiau golygu

Magwyd Vavasor Powell mewn teulu o dras uchel ac o ganlyniad mae'n bosib fod hyn wedi gosod ynddo y dybiaeth fod dyletswydd arno i arwain pobl trwy ei oes. Dywed R. Tudur Jones mae'r digwyddiad o bwys mwyaf ym mywyd y Piwritaniaid oedd eu tröedigaeth crefyddol: 'Os ydym ninnau i ddeall y dynamig a'i hysgogai ar hyd ei oes, rhaid inni weld yr huodledd a'r manyldeb yn eu cefndir yn y traddodiad Piwritanaidd.' Calfinydd oedd Powell a'i gyd Biwritaniaid a rhaid deall fod eu Calfiniaeth yn fwy na chyfundrefn feddwl resymegol yn unig, yng ngeiriau R. Tudur Jones eto; roedd yn genadwri a heriai ddynion i ymlynu'n bersonol wrth raglen o darddiad dwyfol...[yr oedd yn] gyfarwyddyd digonol i fyw ac i farw.' Fe a R. Tudur Jones ymlaen; roedd Calfiniaeth yn “ymarferol” - i ddefnyddio un o'u hoff eiriau – yn ddirfodol, fel y byddem ni'n dweud heddiw, neu 'doedd hi'n ddim.'

Roedd Calfiniaeth Powell yn nodi mae un cam mewn proses oedd yn ymestyn dros holl fywyd y crediniwr oedd y cyfiawnhad neu'r dröedigaeth. Gellid nodi fod hi'n anghywir i edrych ar dröedigaeth fel terfyn y daith ond yn hytrach fod tröedigaeth yn nodi dechrau'r daith i'r Piwritaniaid. Canlyniad edrych ar dröedigaeth fel y diwedd yn hytrach na'r dechrau fel y gwna Powell oedd '...colli'r elfen ddynamig, ymosodol oedd mewn Calfiniaeth a gosod Pietistiaeth oddefol yn ei lle.' Ar ôl y cyfiawnhad mae'r Cristion yn '...dechrau gweithredu, nid ar ei liwt ei hun, wrth gwrs, ond tan eneiniad uniongyrchol Duw.' Dyma sy'n ei arfogi i '...allu bwrw i'r frwydr yn erbyn galluoedd y tywyllwch.'

Dyma gamau Iechydwriaeth yn ôl y Piwritaniaid:

  1. Ethol
  2. Atgenhedlu
  3. Galw
  4. Cyfiawnhau
  5. Sancteiddio
  6. Gogoneddu

Diddorol nodi fod Powell wedi profi tröedigaeth cyn sicrwydd.

Powell a'r Rhyfel Cartref golygu

Dywed R. Tudur Jones am y cyfnod: 'Mewn llawer lle yn y cyfnod Piwritanaidd gwelwyd mudiadau crefyddol cyffelyb yn codi o frwydrau ysbrydol unigolion a'r tân yn cael ei gynnau'n fflam trwy ail-ddarganfod y grym creadigol hwnnw a ryddheid gan ddarllen y Beibl.'[1] Cychwynodd Powell ar ei genhadaeth gyhoeddus cyn iddo ef ei hun ddod i sicrwydd bersonol. Yn gynnar iawn yn ei genhadaeth profodd erledigaeth gyda phobl, rhai yn perthyn iddo hyd yn oed, yn ceisio cymryd ei fywyd. Roedd y tyndra rhwng Siarl I a'r Senedd yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yn y gwrthwynebiad caled tuag at y Piwritaniaid. Roedd Cymru ar y cyfan yn ochri gyda Siarl ond roedd y Piwritaniaid yn ochri gyda'r Senedd.

Fe ymdaflodd Powell ei hun i weithgareddau'r Rhyfel Cartref. Gellid nodi yn y cyfnod yma ei fod wedi esgeuluso ei rôl fel bugail oherwydd ei ddiddordeb a'i ymwneud a'r Rhyfel Cartref. Yn 1644 rhoddwyd cynnig ar anfon pregethwyr oedd yn medru'r Gymraeg yn ôl i Gymru. Cydnabuwyd fod hyn yn aberth i lawer ohonynt am eu bod nhw yn '...willing to expose themselves to any exigencies and inconveniences...' Ond pam? '...for the furthering of the cause of God and the good of their Contrey.' Un o'r rhai a anfonwyd i Gymru wedi'r alwad yma oedd Morgan Llwyd. Wedi i'r Rhyfel cyntaf orffen yn 1646 dychwelodd Powell i Gymru lle bu'n rhan o gynlluniau'r Seneddwyr a'r Piwritaniaid i lunio 'Rhwydwaith Gweinyddol' er budd materion crefyddol yng Nghymru. Erbyn hyn roedd Powell yn mynd ym mhellach na datgan ei gefnogaeth i'r Senedd '...yr oedd yn datblygu'n wrthwynebydd eithafol i'r Frenhiniaeth.' Yn y cyfnod hwn rhwng 1642-1646 gwelir shifft yn statws a dylanwad Powell, troes o fod yn ymneilltuwr unig oedd yn dioddef erledigaeth i droi ymysg pobl a phŵer; '...mae'n ei gael ei hun yn cyfathrachu... gyda'r bobl yr oedd awenau llywodraeth bellach yn eu dwylo.' Dyma'r cyfnod lle daeth i gredu fod angen i'r chwyldro fynd i'r pen – hyd at ddienyddio'r Brenin.

Bellach roedd dau beth yn mynd ag amser Powell, crefydda a milwrio. Fe ymddengys ei fod ef yn ei chael hi'n anodd gwahaniaethu'n glir rhwng y ddau. Erbyn haf 1646 fe ddechreuwyd ar yr ymladd eto ac y tro hwn ar stepen drws Powell yng Ngogledd Cymru. Fe'i hanafwyd yn go ddifrifol mewn ysgarmes nepell o Fiwmares. Bu i'r digwyddiadau hyn aros ym myw cof Powell oherwydd iddo freuddwydio'r noson cynt y câi ei glwyfo a phan yng nghanol y frwydr clywodd lais yn sibrwd; 'Dewisais di i Bregethu'r efengyl', ac yn ei argyfwng gweddïodd Powell, 'O Arglwydd, os felly, arwain fi i ddiogelwch'. Gwelai Powell frwydrau'r rhyfel fel croesgadau sanctaidd ac fe gredai fod Duw gyda nhw wrth frwydro. Fel y gwelai Powell hi roedd rhyddid i bregethu'r Efengyl yn ddibynnol ar fuddugoliaethau'r Senedd ar faes y gad. Yn ystod y cyfnod hwn o droi ymysg pobl bwerus cawsai ryddid i bregethu iddynt (a'i milwyr) ond cawsai gyfle hefyd i ymarfer ei ddawn fel dadleuwr cyhoeddus. Yn ystod y dadlau cyhoeddus yma y daeth ei Galfiniaeth i'r amlwg yn gyhoeddus – aeth i'r afael gyda gwyr eraill mewn dadleuon cyhoeddus lle yr oedd Powell yn dadlau dros gariad neilltuol Duw i'r etholedig rai.

Ffynonellau golygu

  • R. Tudur Jones: Vavasor Powell (Abertawe: Gwasg John Penry, 1971)
  • Alun Tudur: Pobl y Ffordd (Cyhoeddiadau'r Gair, 2006)
  • Y Bywgraffiadur Cymreig (1940)

Cyfeiriadau golygu

  1. R. Tudur Jones: Vavasor Powell (Abertawe: Gwasg John Penry, 1971).