Mae John Edmund Mulaney (ganwyd 26 Awst 1982)[1] yn gomedïwr stand-yp Americanaidd, actor, awdur a chynhyrchydd. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith fel ysgrifennwr ar Saturday Night Live ac fel comedïwr stand-yp gyda'i sioeau The Top Part, New in Town, The Comeback Kid, a Kid Gorgeous, a enillodd Wobr Emmy Primetime yn 2018.[2][3][4] Ef oedd crëwr a seren y comedi Fox Mulaney, cyfres lled hunangofiannol am ei fywyd. Perfformiodd Mulaney hefyd fel cymeriad o'r enw George St. Geegland mewn deuawd gomedi gyda Nick Kroll, yn fwyaf diweddar yn Oh, Hello on Broadway o fis Medi 2016 i ddechrau 2017. Mae'n adnabyddus hefyd am ei waith actio llais fel Andrew Glouberman yn sioe animeiddiedig wreiddiol Netflix, Big Mouth.[5] Gwnaeth Mulaney ymddangosiad yn ei ffilm gyntaf yn 2018, yn lleisio Peter Porker / Spider-Ham yn y ffilm animeiddiedig Spider-Man: Into the Spider-Verse a enillodd Wobr yr Academi.[6][7]

John Mulaney
Ganwyd26 Awst 1982 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Georgetown
  • St. Ignatius College Prep Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, actor, actor teledu, sgriptiwr, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata
Arddullcomedi arsylwadol, sketch comedy, digrifwch swreal Edit this on Wikidata
PriodAnnamarie Tendler Edit this on Wikidata
PartnerOlivia Munn Edit this on Wikidata
PlantMalcolm Hiệp Mulaney Edit this on Wikidata
PerthnasauGeorge J. Bates Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrimetime Emmy Award for Outstanding Original Music and Lyrics, Primetime Emmy Award for Outstanding Writing for a Variety Special, Gwobrau Peabody, Writers Guild of America Award for Television: Comedy-Variety Talk Series, Writers Guild of America Award for Television: Comedy-Variety Talk Series Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.johnmulaney.com Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganed Mulaney yn Chicago, Illinois,[8] fab i'r ddarlithydd a Ellen Mulaney a'r cyfreithiwr Charles "Chip" Mulaney. Mae ei rieni o dras Gatholig Wyddelig.[9][10][11][12] Yn saith oed, cafodd Mulaney gyfle i gael clyweliad ar gyfer rôl Kevin yn y ffilm Home Alone, ond gwrthododd ei rieni.[10] Aeth i ysgol uwchradd Gatholig St Clement[13] lle, yn lle gwneud adroddiadau y byddai ef a'i ffrind gorau, John O'Brien, yn cynnig perfformio'r hyn roeddent wedi'i ddysgu ar ffurf sgets. Mynychodd coleg St Ignatius Prep a graddiodd yn 2000. Yna aeth i Brifysgol Georgetown, lle astudiodd lenyddiaeth Saesneg a chrefydd.[8][14] Ymunodd â grŵp byrfyfyrio'r ysgol lle wnaeth chwrdd â Nick Kroll a Mike Birbiglia.[15] Yn ddiweddarach ymunodd â Birbiglia ar ei daith stand-yp.

Ar 5 Gorffennaf 2014, priododd Mulaney artist colur Annamarie Tendler.[16] Perfformiwyd eu seremoni briodas gan y ffrind Dan Levy.[17] Roedd gan Mulaney broblem yfed yn y gorffennol ac nid yw'n yfed alcohol rhagor.[10] Mae Mulaney wedi siarad yn helaeth am ei gariad at bêl-fasged yn ei gomedi, ac mae'n mynychu gemau NBA yn aml.[18][19] Mae Mulaney yn gefnogwr o'r Chicago Bulls.[20] Yn ystod cyfweliad â chylchgrawn Esquire ar 12 Medi 2019, nododd Mulaney iddo gyfrannu arian at ymgyrch arlywyddol Bernie Sanders 2016.[21] Ar 2 Mehefin, 2020, gwelwyd Mulaney gyda'i wraig mewn protest Black Lives Matter yn Washington DC.[22]

Gyrfa golygu

Ar ôl graddio o Brifysgol Georgetown yn 2004, symudodd Mulaney i Ddinas Efrog Newydd er mwyn ceisio gyrfa mewn comedi, a chafodd ei gyflogi yn swyddfa yn Comedy Central.[10] Ar ôl blwyddyn, cyflwynodd y syniad am barodi o'r gyfres I Love the '80s gyda'r enw I Love the' 30s, a ddatblygodd ynghyd â Nick Kroll.[23] Gadawodd y swydd er mwyn dechrau gweithio'n annibynnol.

Saturday Night Live golygu

Ar ôl cael ei ddarganfod wrth berfformio ar Late Night with Conan O'Brien, gofynnwyd i Mulaney gael clyweliad ar gyfer Saturday Night Live ym mis Awst 2008, gyda Kroll, Donald Glover, Ellie Kemper, TJ Miller a Bobby Moynihan.[24] Ni wnaeth Mulaney baratoi unrhyw dynwaredai, yn lle yn perfformio stand-yp. Aeth i mewn heb fawr o ddisgwyliadau, er ei fod yn credu y byddai'n stori "cŵl". Enillodd Mulaney le ar y tîm ysgrifennu, lle gweithiodd am bedwar tymor.[25] Roedd hefyd yn ymddangos ar y sioe weithiau ar segment Weekend Update.[26][27][28] Cyd-greodd ef a Bill Hader y cymeriad SNL poblogaidd Stefon.[29][30] Cafodd ei enwebu am, ac enillodd, nifer o wobrau Emmy gyda SNL.[31][32] Dychwelodd Mulaney i gyflwyno Saturday Night Live tair gwaith: ar 14 Ebrill 2018; 2 Mawrth 2019; a 29 Chwefror 2020.[33] Ef yw'r bedwerydd ysgrifennwr SNL (ar ôl Conan O'Brien, Louis CK, a Larry David) i gyflwyno SNL er na fu erioed yn aelod o'r cast.[34]

Gwaith ar ôl Saturday Night Live golygu

Yn dilyn ei gyfnod yn Saturday Night Live, cyfrannodd Mulaney ysgrifennu at brosiectau teledu eraill, gan gynnwys Maya & Marty; Documentary Now; Oh, Hello on Broadway; a'r Comedy Central Roast of James Franco. Cafodd mân rolau ar sioeau teledu fel Crashing, Portlandia, a Difficult People. Mae'n lleisio'r prif gymeriad ar y gyfres animeiddiedig Netflix Big Mouth ochr yn ochr â’i bartner ysgrifennu Nick Kroll, a gyd-greodd y sioe. Yn 2018, darparodd Mulaney lais Spider-Ham yn y ffilm animeiddiedig Spider-Man: Into the Spider-Verse, a enillodd Wobr yr Academi.[35]

Comedi stand-yp golygu

 
Mulaney yn 2010

Yn ychwanegol at ei waith ar SNL, mae Mulaney wedi gweithio am 17 mlynedd fel comedïwr stand-yp. Mae wedi perfformio ar y rhaglenni Live at Gotham, Conan, Jimmy Kimmel Live, Late Night With Jimmy Fallon, Late Night With Conan O'Brien, a Comedy Central Presents. Rhyddhaodd Mulaney albwm comedi stand-yp o'r enw The Top Part yn 2009[36] a chafodd rhaglen arbennig comedi stand-yp o'r enw New in Town yn 2012.

Rhyddhawyd trydedd raglen gomedi stand-yp Mulaney, The Comeback Kid, ar 13 Tachwedd 2015, ar Netflix. Mae ei ail sioe stand-yp, New in Town, a berfformiodd am y tro cyntaf ar Comedy Central yn 2012, hefyd ar Netflix.

Dechreuodd pedwaredd daith gomedi stand-yp Mulaney, Kid Gorgeous, ym mis Mai 2017.[37] Roedd y daith yn cynnwys saith sioe yn Radio City Music Hall yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 2018,[38] a ffilmiwyd un ohonynt ar gyfer rhaglen arbennig Netflix arall.[39]

Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddwyd y byddai Mulaney yn mynd ar daith gyda Pete Davidson yn Efrog Newydd, New Jersey, Pennsylvania a Massachusetts ar gyfer cyfres gyfyngedig o sioeau comedi o'r enw "Sundays with Pete & John." Mae Mulaney a Davidson yn ffrindiau agos, yn ymddangos gyda'i gilydd ar The Tonight Show gyda Jimmy Fallon a Saturday Night Live.[40]

Mulaney golygu

Ym mis Hydref 2013, cyhoeddodd Fox eu bod wedi archebu chwe phennod o sioe lled-bywgraffiadol John Mulaney o'r enw Mulaney.[41] Mulaney oedd crëwr, cynhyrchydd, ac ysgrifennwr ei gyfres nes iddi gael ei chanslo ym mis Mai 2015.[42] Dywedodd Mulaney ei fod eisiau gwneud y math o gomedi sefyllfa aml-gamera cynulleidfa fyw cafodd ei fagu arnynt.[43] Derbyniodd y gyfres adolygiadau gwael.[44][45][46][47]

George St. Geegland golygu

Mae Mulaney yn perfformio’n aml fel y cymeriad George St. Geegland, dyn oedrannus o Upper West Side Efrog Newydd. Mae St Geegland a'i ffrind Gil Faizon (a bortreadir gan Nick Kroll), yn cynnal sioe pranc o'r enw Too Much Tuna lle mae cystadleuwyr yn derbyn brechdanau gyda gormod o bysgod tiwna.[48] Mae Mulaney wedi teithio o amgylch yr Unol Daleithiau ochr yn ochr â Kroll mewn sioe o’r enw Oh, Hello, sy'n cynnwys y ddau gymeriad hyn. Perfformiwyd y sioe am y tro cyntaf ar Broadway ar 23 Medi 2016, a daeth i ben ar 22 Ionawr 2017. Ffilmiwyd a rhyddhawyd cynhyrchiad Broadway ar Netflix ar 13 Mehefin 2017.[49] Roedd gwestai yn cynnwys Steve Martin, Michael J. Fox, a Matthew Broderick.

Sack Lunch Bunch golygu

Ym mis Rhagfyr 2019, rhyddhaodd Mulaney raglen gomedi cerddorol arbennig i blant o'r enw John Mulaney & the Sack Lunch Bunch ar Netflix. Roedd y sioe wedi'i ysbrydoli gan Sesame Street, Mister Rogers' Neighbourhood, The Electric Company, Free to Be... You and Me, a 3-2-1 Contact.[50] Mae'r sioe yn cynnwys Mulaney, ynghyd â phymtheg o actorion a chantorion plant, rhwng 8 a 13 oed. Ymhlith y cameos enwog mae André De Shields, David Byrne, Richard Kind, Natasha Lyonne, Annaleigh Ashford, a Jake Gyllenhaal.[51]

Cyfeiriadau golygu

  1. "John Mulaney". TVGuide.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Gorffennaf 2015.
  2. Holson, Laura M. (4 Ionawr 2013). "The Family Franchise". The New York Times. Cyrchwyd 6 Ionawr 2013.
  3. "John Mulaney biodata". TV Guide. Cyrchwyd 12 Chwefror 2013.
  4. Swartz, Anna (18 Medi 2018). "Emmys 2018: John Mulaney wins for outstanding writing for variety special". Mic (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Medi 2018.
  5. "'Big Mouth' Season 1 Voice Cast: A Visual Guide To The Adult Voices Behind The Tweens". IndieWire. Cyrchwyd 25 Ebrill 2020.
  6. "The 'Spider-Man: Into The Spider-Verse' Voice Cast Is Crawling With Huge Stars". Bustle. Cyrchwyd 25 Ebrill 2020.
  7. "Oscars: 'Spider-Man: Into the Spider-Verse' Wins Best Animated Feature". Variety. Cyrchwyd 25 Ebrill 2020.
  8. 8.0 8.1 Heidemann, Jason A. (June 15, 2010). "Double our pleasure: Two comics with a Chicago past team up at this year's Just for Laughs fest". Time Out Chicago (277). Cyrchwyd 24 Hydref 2010.
  9. Downing, Andy (27 Chwefror 2013). "A stand-up guy: 'SNL' vet John Mulaney takes the Barrymore stage". Madison. Cyrchwyd 26 Medi 2014.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 Walters, John (30 Mai 2014), "John Mulaney's Charm Offensive". Newsweek Global. 162 (21):1–7
  11. Peters, Charlene (17 Ebrill 2012). "Saturday Night Live' writer-actors Seth Meyers and John Mulaney embrace Marblehead connection". wickedlocal.com. Cyrchwyd 26 Medi 2014.
  12. Pitchel, Samantha (12 Mai 2012). "John Mulaney on the power of parody, and what really goes on behind the scenes at SNL". Culturemap Austin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-04. Cyrchwyd 26 Medi 2014.
  13. "Saint Clement School: Alumni". stclementschool.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Chwefror 2016.
  14. Tringali, Steven (November 29, 2012). "Joke's on us: Rivalry week comedians heckle the audience and share maybe too much". The Lafayette (277). Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 19, 2015. Cyrchwyd February 12, 2013.
  15. Jones, Sam. "John Mulaney". Off Camera with Sam Jones. Cyrchwyd 31 Awst 2018.
  16. Webber, Stephanie (July 6, 2014). "John Mulaney Marries Fiancee Annamarie Tendler: See Their Wedding Photo". Us Weekly. Cyrchwyd March 11, 2019.
  17. The Comeback Kid, 2015
  18. https://www.refinery29.com/en-us/2018/12/218604/pete-davidson-john-mulaney-basketball-game
  19. https://www.chatsports.com/new-york-knicks/a/source/pete-davidson-debuts-red-manicure-at-knicks-game-15218606
  20. https://www.insidehook.com/daily_brief/television/watch-john-mulaney-compare-founding-fathers-to-92-chicago-bulls-on-snl
  21. Weiner, Jonah (12 Medi 2019). "John Mulaney Is More Than a Funny Guy in a Suit and Tie". Esquire. Cyrchwyd 17 Chwefror 2020.
  22. "John Mulaney Attends White House Black Lives Matter Protest, Wears Two Masks". Vulture. Cyrchwyd 7 Mehefin 2020.
  23. "I Love the 30s". www.ilovethe30s.com. Cyrchwyd 2020-01-28.
  24. "John Mulaney Tells Everything You Want to Know About His Time at 'SNL' in 10 Minutes (Video)". TheWrap. Cyrchwyd 25 Ebrill 2020.
  25. https://www.gq.com/story/the-gqa-john-mulaney-on-his-new-fox-sitcom-and-leaving-snl
  26. Berman, Mark (8 Gorffennaf 2010). "Comedian John Mulaney at Arlington Cinema 'N' Drafthouse". The Washington Post. Washington, DC. Cyrchwyd 1 Medi 2010.
  27. Jada, Yuan (26 Ebrill 2010). "John Mulaney Talks About Debuting on Saturday Night Live With His Girl Scout Cookie Tale of Woe". Vulture. Cyrchwyd September 1, 2010.
  28. Tucker, Ken (24 Hydref 2010). "'Saturday Night Live' review: Emma Stone was rock-solid, and flexible". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-08. Cyrchwyd 24 Hydref 2010.
  29. Potts, Kim (24 Medi 2010). "'SNL' Star Bill Hader Talks the New Season, Jon Hamm's Return and His 'Surreal Life' Experience with Corey Feldman". HuffPost TV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 21, 2012. Cyrchwyd November 24, 2012.
  30. "Interview with John Mulaney". Conan. TBS. January 26, 2012.
  31. "John Mulaney". Academy of Television Arts and Sciences. Cyrchwyd May 16, 2018.
  32. "Outstanding Original Music and Lyrics 2011". Academy of Television Arts and Sciences. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2012.
  33. Jeffrey, Trevor (2020-02-26). "John Mulaney Returns To Host SNL For The Third Year Running". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-26. Cyrchwyd 2020-04-04.
  34. "John Mulaney To Return As 'Saturday Night Live' Host". Deadline Hollywood. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-05. Cyrchwyd 25 Ebrill 2020.
  35. Good, Owen S. "Spider-Man: Into the Spider-Verse gets three more characters — including a spider-pig". polygon.com. Polygon. Cyrchwyd October 12, 2018.
  36. Mulaney, John (2009). The Top Part. New York: Comedy Central Records. OCLC 317698024.
  37. McKellop, Mario (22 Mawrth 2017). "John Mulaney announces Kid Gorgeous North American tour". AXS. Cyrchwyd 20 Chwefror 2018.
  38. Sacher, Andrew (20 Tachwedd 2017). "John Mulaney adds 6th Radio City show, played "Night of Too Many Stars"". BrooklynVegan. Cyrchwyd 20 Chwefror 2018.
  39. "John Mulaney: Kid Gorgeous at Radio City". Netflix. Cyrchwyd 16 Mai 2018.
  40. Husband, Andrew. "John Mulaney And Pete Davidson Are Becoming Quite The Comedy Duo". Forbes.
  41. Harnick, Chris (October 2, 2013). "John Mulaney Sitcom Gets Series Order at Fox". HuffPost. Cyrchwyd 4 Hydref 2013.
  42. Finbow, Katy (11 Mai 2015). "Fox officially cancels Weird Loners, Mulaney and Red Band Society". Digital Spy. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2015.
  43. Weinman, Jaime J. (4 Awst 2014). "The New Seinfeld". Maclean's. Cyf. 127 rhif. 30/31. tt. 60–62.
  44. "Mulaney". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd May 16, 2018.
  45. "Mulaney: Season 1". Metacritic. Cyrchwyd 16 Mai 2018.
  46. Jensen, Jeff; Maerz, Melissa (4 Rhagfyr 2014). "5 Worst TV Shows of 2014". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd November 27, 2017.
  47. Holmes, Linda (3 Hydref 2014). "Please Don't Judge John Mulaney By 'Mulaney'". NPR. Cyrchwyd 20 Mehefin 2015.
  48. B. G. Henne (23 Ionawr 2015). "Watch "Oh, Hello" stars Gil Faizon and George St. Geegland drop in at 92Y". The A.V. Club. Cyrchwyd 16 Mai 2018.
  49. Kurp, Josh (18 Mai 2017). "John Mulaney And Nick Kroll's 'Oh, Hello' Is Coming To Netflix". UPROXX. Cyrchwyd 31 Awst 2018.
  50. Bonanos, Alexander (18 Rhagfyr 2019). "John Mulaney Made a Kids' Special. We Sent a 10-Year-Old to Interview Him About It". Vulture. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2019.
  51. Adams, Erik (23 Rhagfyr 2019). "The Sack Lunch Bunch Is an Unconventional Package, but Its Ingredients Are Pure John Mulaney". The A.V. Club. Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2019.