John Parry (Bardd Alaw)
Cerddor a chyfansoddwr o Gymru oedd John Parry neu "Bardd Alaw" (18 Chwefror, 1776 – 8 Ebrill, 1851). Yng Nghymru, fel "Bardd Alaw", roedd yn adnabyddus fel telynor. Cyhoeddodd sawl cyfrol am gerddoriaeth Cymru.
John Parry | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1776 Dinbych |
Bu farw | 8 Ebrill 1851 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Arddull | opera |
Plant | John Orlando Parry |
Gyrfa
golyguGaned John Parry yn nhref Dinbych yn 1776. Dywedir mai ennill am ganu'r delyn mewn eisteddfod leol yn yr Wyddgrug a fu dechrau ei yrfa gerddorol broffesiynol.[1] Arweiniodd fand Milisia Sir Ddinbych am gyfnod. Yn 1807 symudodd i Lundain lle ganwyd ei fab y diddanwr John Orlando Parry. Daeth yn adnabyddus fel meistr ar ganu'r flageolet dwbl. Yn 1809 dechreuodd gyfansoddi a chyhoeddi darnau cerddorol i'r delyn a'r piano ac offerynnau eraill. Fe'i apwyntiwyd yn gyfarwyddwr cerddorol y Vauxhall Gardens yn yr un flwyddyn.
Cafodd yr enw barddol "Bardd Alaw" yn Eisteddfod Wrecsam 1821. Cyhoeddodd sawl traethawd a chyfrol ar gerddoriaeth Cymru, yn cynnwys dwy gyfrol o alawon Cymreig. Roedd yn adnabod Arglwyddes Llanofer a Felicia Hemans. Yn 1822 daeth yn Gofrestrydd Cerddorol i'r Cymmrodorion, ac ar 24 Mai 1826, cynhaliwyd cyngerdd er ei les ac anrhydedd ganddynt.[2] Am weddill ei oes cymerodd ran amlwg fel beirniad cerdd mewn eisteddfodau. Bu farw yn ei gartref yn Llundain ar 8 Ebrill 1851, yn 75 mlwydd oed.[2]
Gwaith
golygu- Llyfrau
- The Ancient Britons' Martial Music (1804)
- Welsh Melodies (1809)
- An Account of the Rise and Progress of the Harp (1834)
- An Account of the Royal Musical Festival Held in Westminster Abbey in 1834 (1834)
- The Welsh Harper (1848), gyda Maria Jane Williams.
- Rhai alawon
- "Gwenynen Gwent"
- "Ap Shencyn"
- "Dyddgwyl Dewi"
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, d.d.=1913), tud. 262.
- ↑ 2.0 2.1 Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, d.d.=1913), tud. 263.