Robert Griffith (Robin Telynor)

awdur a cherddor (1847–1909)

Roedd Robert Griffith (1 Mawrth, 1847 -8 Hydref, 1909) yn saer Cymreig bu'n gweithio i gwmni rheilffordd ym Manceinion. Roedd hefyd yn delynor a chanwr penillion ac yn hanesydd cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.[1]

Robert Griffith
Ganwyd1 Mawrth 1847 Edit this on Wikidata
Llangernyw Edit this on Wikidata
Bu farw8 Hydref 1909 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, gwaith y saer Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Griffith ar fferm y Glog Ddu, Llangernyw, Sir Ddinbych (Sir Conwy bellach) yn blentyn i John a Jane Griffith. Roedd John Griffith yn dyddynwr ac yn was i deulu bonheddig cyn iddo symud i Lanrwst i weithio yn y gweithfaoedd plwm. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol Llanrwst.

Gyrfa golygu

Wedi i Griffith gadael yr ysgol aeth i weithio gyda'i dad yng ngwaith plwm Nant Bwlch yr Heyrn. Cafodd dymor o weini yn y Tyddyn Uchaf, Llangernyw, cartref y beirdd Richard Hughes (Glan Collen) a John Hughes (Ioan Cernyw) [2]. Blwyddyn wedyn bu yn was fferm a thafarn y Stag Llangernyw; yna gwariodd tymor ym mhlas Pennant Ereithlyn ger Eglwysbach, yn was tŷ i'r offeiriad John Boulger. Ar ôl ei gyfnod fel gwas cafodd ei brentisio'n saer gyda Robert Roberts, Pandy Tudur, ac ar ôl gorffen ei brentisiaeth bu'n gweithio fel saer yn Llanrwst.[3]

Ym 1872 symudodd Griffith i Fanceinion lle bu'n gweithio fel saer coed i Gwmni Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer. Ym Manceinion bu'n lletya gyda'r telynor enwog o Ddolgellau, Idris Fychan, a ddysgodd iddo ganu'r delyn a chanu penillion.[4]

Ym 1883 urddwyd Griffith yn gerddor gan Arwest Glan Geirionnydd gyda'r enw barddol Robin Telynor.[5]

Ym Manceinion daeth yn gyfeillgar a Ceiriog, R. J. Derfel, a llenorion Cymraeg eraill y ddinas. Roedd yn un o'r saith a sefydlodd Cymdeithas Genedlaethol Cymry Manceinion gan wasanaethu fel trysorydd cyntaf y gymdeithas.

Roedd Griffith yn gasglwr hen lythyrau ac ysgrifau. Defnyddiodd ei gasgliad o hynafiaethau i baratoi darlithoedd i lawer o gymdeithasau Cymraeg a Chymreig. Defnyddiodd ffrwyth ei ymchwil i gyfansoddi traethodau ar gyfer cyfarfodydd cystadleuol. Bu rai o'r traethodau yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd yn Eisteddfod Llandudno 1896, Bangor 1902 a Llangollen. 1908.

Ysgrifennodd hunangofiant, ond ni chafodd ei gyhoeddi. Mae copi o'r hunangofiant wedi ei gadw fel llawysgrif yn Llyfrgell Prifysgol Bangor.[6] Llafuriodd yn ddyfal i gyfansoddi llyfr ar Hanes yr Anterliwtiau, ond methodd cael ddigon o danysgrifwyr i'w cyhoeddi. Prif waith ei fywyd oedd y Llyfr Cerdd Dannau, gwaith cynhwysfawr am gân, telyn, ac awen a gyhoeddwyd ym 1913 ar ôl ei farwolaeth.[7]

Teulu golygu

Priododd Isabella Davies nith i'r bardd a'r llenor Robert Thomas (ap Vychan). Ni fu iddynt blant.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Park Grove, Manceinion yn 61 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y de Manceinion.

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffith, R. D., (1953). GRIFFITH, ROBERT (1847 - 1909), awdur Cerdd Dannau. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 20 Mai 2019
  2. Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw[dolen marw] adalwyd 20 Mai 2019
  3. Y Llenor Cyf 16 1937 Atgofion Robert Griffith adalwyd 20 mai 2019
  4. Edwards, O. (2001, January 01). Griffith, Robert. Grove Music Online adalwyd 20 Mai. 2019
  5. "LLANRWST A'R CYLCHOEDDI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1883-09-01. Cyrchwyd 2019-05-20.
  6. Archives Hub - Papers of Robert Griffith, Manchester
  7. "MYFYRDODAU CYFRIN - Ye Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1909-10-21. Cyrchwyd 2019-05-20.