John Paul Jones (cerddor)

cyfansoddwr a aned yn 1946

Cerddor, cyfansoddwr, aml-offerynnwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Seisnig yw John Richard Baldwin (ganwyd 3 Ionawr 1946), a adwaenir yn well fel John Paul Jones. Caiff ei adnabod orau fel basydd y band roc o Loegr, Led Zeppelin. Mae Jones hefyd wedi sefydlu ei hun fel perfformiwr unigol ac yn cyfrannu i sawl prosiect arall. Yn gerddor gyda talentau eang, gall Jones hefyd chwarae'r organ, gitar, koto, mandolin, autoharp, violin, ukulele, sitar, cello, continuum a recorder.

John Paul Jones
Jones yn 2010.
Y Cefndir
Enw
(ar enedigaeth)
John Richard Baldwin
Llysenw/au
  • JPJ
  • Jonesy
Ganwyd (1946-01-03) 3 Ionawr 1946 (78 oed)
Sidcup, Caint
Math o GerddoriaethRoc
Gwaith
  • Cerddor
  • cyfansoddwr
  • trefnydd cerddorol
  • cynhyrchydd
  • actor
Offeryn/nau
  • Gitar fas
Cyfnod perfformio1961–presennol
Label
  • Discipline Global Mobile
  • Atlantic Records
  • Swan Song Records
Perff'au eraill
Gwefanjohnpauljones.com
Offerynnau nodweddiadol
Bas Fender Jazz
Organ Hammond
Piano Rhodes
Alembic
Gitars bas Custom Manson a mandolin[1]

Meddai AllMusic, "Jones has left his mark on rock & roll music history as an innovative musician, arranger, and director." Mae Jones yn rhan o'r bandiau Them Crooked Vultures gyda Josh Homme a Dave Grohl, lle mae'n chwarae'r gitar fas, allweddellau, ac offerynnau eraill. Yn 2014, cafodd Jones ei enwebu'n rhif un ar rhestr Paste o "20 Most Underrated Bass Guitarists."

Led Zeppelin golygu

Ffurfiant golygu

Yn ystod ei gyfnod fel cerddor sesiwn, roedd yn aml yn cwrdd â Jimmy Page, cerddor sesiwn adnabyddus iawn. Ym Mehefin 1966, ymunodd Page y band The Yardbirds, ac yn 1967 cyfrannodd Jones i albwm Little Games y band. Y gaeaf dilynol, gofynnodd Jones wrth Page ei ddyhead o fod yn rhan o unrhyw brosiect arall gan y gitarydd yn y dyfodol. Yn y flwyddyn honno, gwahanodd y The Yardbirds. Yn dilyn awgrym ei wraig, gofynnodd Jones i Page am waith sbar, a gwahoddodd y gitarydd Jones i gydweithio ag ef. 

Ymunodd Robert Plant y canwr a John Bonham y drymiwr i greu y pedwarawd y'u henwyd yn wreiddiol "New Yardbirds" pan roeddynt yn teithio'n Scandinavia, ond adnabu'r band yn fuan fel Led Zeppelin.

Proffil golygu

Tra bod holl aelodau Led Zeppelin wedi cael enw am ymddwyn dros ben llestri oddi ar y llwyfan (er bod dweud bod hyn yn or-ddweud), adnabu Jones fel aelod tawelaf y grŵp. Mae Jones wedi honni ei fod wedi cael yr un faint o hwyl a gweddill yr aelodau ar hyd y ffordd, ond ei fod yn fwy synhwyrol am y peth, gan dweud "I did more drugs than I care to remember. I just did it quietly." 

Ar ôl Led Zeppelin golygu

 
Jones yn chwarae lap steel

1980–2000 golygu

Ar ol i Led Zeppelin ddod i ben yn 1980 gyda marwolaeth John Bonham, mae Jones wedi cydweithio gyda amryw o artistiaid, yn cynnwys Diamanda Galás, R.E.M., Jars of Clay, Heart, Ben E. King, Peter Gabriel, Foo Fighters, Lenny Kravitz, Cinderella, The Mission, La Fura dels Baus, The Harp Consort, Brian Eno,  Butthole Surfers ac Uncle Earl.

Yn 1985, ymunodd Jones a chyn aelodau eraill o Led Zeppelin ar gyfer cyngerdd Live Aid gyda Phil Collins a Tony Thompson yn llenwi mewn ar y drymiau. Gwnaeth y cyn-aelodau ail ffurfio eto ar gyfer cyngerdd Atlantic Records 40th Anniversary ar 14 Mai 1988. Page, Plant, Jones, a mab John Bonham, Jason, wnaeth gloi'r ddigwyddiad. Yn 1992, trefnwyd Jones yr offerynniaeth ar gyfer albwm R.E.M.Automatic for the People.

Bywyd Personol golygu

Priododd John ei wraig, Maureen, yn 1967, a maen nhw wedi bod gyda'i gilydd ers hynny. Yn bresennol maen nhw'n byw yn Nwyrain Llundain. Mae ganddynt dair merch: Tamara, Jacinda a Kiera. 

Disgyddiaeth golygu

Albwm Unigol
  • Scream for Help (1985) – trac sain film 
  • The Sporting Life (1994) gyda Diamanda Galás
  • Zooma (1999)
  • The Thunderthief (2001)
Gyda Them Crooked Vultures
  • Them Crooked Vultures (2009)
Gyda Seasick Steve
  • You Can't Teach an Old Dog New Tricks (2011)
  • Hubcap Music (2013)

Ffilmyddiaeth golygu

  • The Song Remains the Same (1976)
  • Give My Regards to Broad Street (1984)
  • Scream for Help (1984) – cyfansoddwr
  • The Secret Adventures of Tom Thumb (1993) – cyfansoddwr
  • Risk (1994) – cyfansoddwr
  • Celebration Day (2012)

Cyfeiriadau golygu

  1. Andy Manson. "Fine instrument luthier". Andy Manson. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2012. Cyrchwyd 28 Mawrth 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolenni Allanol golygu