John Pritchard (Gaerwenydd)
Bardd Cymraeg ac arweinydd eisteddfodol oedd John Pritchard (Ebrill 1837 – 31 Rhagfyr 1898), a adwaenid gan amlaf wrth ei enw barddol Gaerwenydd. Roedd yn frodor o Ynys Môn.[1]
John Pritchard | |
---|---|
Ffugenw | Gaerwenydd |
Ganwyd | Ebrill 1837 Gaerwen |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1898 Bethesda |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned Gaerwenydd yn Ebrill 1837 yn y Gaerwen, Sir Fôn. Roedd ei fam yn chwaer i'r Parch. Daniel Rowlands, Bangor, a'i dad yn deiliwr. Dysgodd grefft ei dad. Symudodd pan yn ifanc i fyw ym Methesda, Arfon, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu farw ar y 31ain o Ragfyr 1898; claddwyd ef ym mynwent Glanogwen, Bethesda.[1]
Bardd ac arweinydd eisteddfodol
golyguDechreuodd farddoni yn ieuanc. Enillodd sawl cadair eisteddfodol yn cynnwys eisteddfod Bethesda 1866, y Gaerwen 1883 (testun: "Yr Anturiaethwr") a Ffestiniog 1890 (testun: "Y Gweithiwr"). Bu mwy nag unwaith ymhlith y goreuon am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd nifer o englynion a cherddi eraill a gyhoeddwyd yn y cylchgronau Cymraeg.[1]
Daeth i fri fel arweinydd eisteddfodol: "Cadwai dorf mewn tymer dda drwy'i ffraethineb a'i ddawn barod i lunio llinellau cynganeddol cywrain a gafaelgar."[1]