John Salusbury (m. 1578)

o Blas Lleweni, ger Dinbych (? -1578)

Tirfeddiannwr Cymreig, swyddog sirol, un o deulu pwerus y Salbriaid, ac aelod seneddol oedd John Salusbury (cyn 1520 – 1578), Lleweni, Sir Ddinbych.[1]

John Salusbury
Ganwyd1520 Edit this on Wikidata
Lleweni Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 1578 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1545-47, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd 1553, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1554-55, Aelod o Senedd 1558 Edit this on Wikidata
TadRoger Salusbury Edit this on Wikidata
MamElizabeth Pylston (Puleston) Edit this on Wikidata
PlantRoger Salusbury, John Salusbury, Jane Salesbury, Roger Salusbury Edit this on Wikidata

Ef oedd mab hynaf Syr Roger Salusbury, Plas Lleweni. Dilynodd ei dad yn 1530 a gwnaed ef yn farchog ar 22 Chwefror 1547. Ni cheir cyfeiriad ato yn Gwyddoniadur Cymru, ond ceir gwybodaeth yn y Bywgraffiadur Cymreig.

Beddrod John yn yr Eglwys Wen, Dinbych

Penodwyd Salusbury gan y Brenin Harri VIII yn Siryf Sir Ddinbych rhwng 1541 ac 1542 ac yn Siryf Sir y Fflint o 1548 hyd at 1549. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Sir Ddinbych o 1543 hyd ei farwolaeth ac fel Custos Rotulorum Sir Ddinbych o 1558 hyd 1564. Bu eilwaith yn Siryf Sir Ddinbych yn 1574-75.

Etholwyd Salusbury yn Aelod (AS) o Senedd Lloegr dros Sir Ddinbych yn 1545, 1547, Hydref 1553, Ebrill 1554, Tachwedd 1554 ac yn 1558. Pan gododd helynt rhwng iarll Leicester ac ysweiniaid Gogledd Cymru gofalodd Salusbury gadw ar yr ochr iawn i'r iarll a chadwodd ei ben.

Prif gartref y teulu, Neuadd Lleweni, drwy lygad Thomas Pennant tua 1781

Bywyd personol golygu

Priododd Jane, merch a chydaeres David Myddelton, Caer, Swydd Gaer, a bu iddynt chwe mab a dwy ferch. Bu ei fab hynaf a'i etifedd John, sef gŵr cyntaf Catrin o Ferain, a fu farw yn 1566, 12 mlynedd o'i flaen.[2] Ar ei farwolaeth, claddwyd ef yn eglwys Sant Marchell, Dinbych ('Yr Egwlys Wen), lle ceir cofeb cain iawn iddo, gyda cherfluniau o'i blant o'i gwmpas.[3] Dienyddiwyd ei ŵyr Syr Thomas Salusbury (g. 1564) yn ddiweddarach am fod yn rhan o'r Gynllwyn Babington.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Sir John Salusbury; Robert Chester (1914). Poems (yn Saesneg). Early English Text Society. t. xii.
  2. 2.0 2.1 Ballinger, John. "Katheryn of Berain", Y Cymmrodon, Vol. XL, The Honourable Society of Cymmrodian, London, 1929
  3. Bryn Mawr College Monographs: Monograph series. Bryn Mawr College. 1913. t. x.