John Spencer, 8fed Iarll Spencer
Roedd Edward John Spencer, 8fed Iarll Spencer, MVO (24 Ionawr 1924 – 29 Mawrth 1992) yn fab i Albert Edward John Spencer, 7fed Iarll Spencer a'r Fonesig Cynthia Elinor Beatrix Hamilton, merch James Albert Edward Hamilton, 3ydd Dug Abercorn, ac yn dad i Diana Spencer.
John Spencer, 8fed Iarll Spencer | |
---|---|
Ganwyd | Edward John Spencer 24 Ionawr 1924 Llundain |
Bu farw | 29 Mawrth 1992 Llundain |
Man preswyl | Althorp |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwastrawd, gwleidydd, aide-de-camp, pendefig |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, High Sheriff of Northamptonshire |
Tad | Albert Spencer |
Mam | Cynthia Spencer, Iarlles Spencer |
Priod | Frances Shand Kydd, Raine |
Plant | Bonesig Sarah McCorquodale, Jane Fellowes, John Spencer, Diana, Tywysoges Cymru, Charles Spencer |
Llinach | teulu Spencer |
Gwobr/au | Member of the Royal Victorian Order |
Addysg a gyrfa milwrol
golyguAddysgwyr yr Arglwydd Spencer yng Ngholeg Eton, y Coleg Milwrol Brenhinol yn Sandhurst, ac yn y Coleg Amaethyddol Brenhinol. Roedd yn Capten yn y "Royal Scots Greys", ymladdodd yr Arglwydd Spencer yn yr Ail Ryfel Byd rhwng 1944 a 1945. Rhwng 1947 a 1950, gwasanaethodd fel Aide-de-Camp i Lywodraethwr De Awstralia ar y pryd, Malcolm Barclay-Harvey.[1]
Gwleidyddiaeth
golyguDeiliodd yr Arglwydd Spencer swyddi Cyngorydd Sirol dros Swydd Northampton (1952), Uchel Siryf Swydd Northampton (1959) a Ustus yr Heddwch dros Norfolk (1970).[1] Gwasanaethodd fel Equerry i'r Brenin Siôr VI (1950-52) ac i Frenhines Elizabeth II (1952-54),[2] ac arwisgwyd ef fel Aelod o'r Urdd Fictoraidd Brenhinol (M.V.O.) ym 1954.[1]
Priodas cyntaf
golyguPriododd yr Anrhydeddus Frances Ruth Burke-Roche ar 1 Mehefin 1954, merch Edmund Burke Roche, 4ydd Barwn Fermoy, yn Abaty Westminster gan Percy Herbert, Esgob Norwich.
Cawsont bump o blant:
- Elizabeth Sarah Lavinia Spencer (19 Mawrth 1955), a briododd Neil Edmund McCorquodale, cefnder pell i Raine, Iarlles Spencer
- Cynthia Jane Spencer (11 Chwefror 1957), a briododd Syr Robert Fellowes, Barwn Fellowes yn ddiweddarach
- John Spencer, a bu farw o fewn 10 awr o'i eni ar 12 Ionawr 1960
- Diana Frances Spencer, Diana, Tywysoges Cymru yn ddiweddarach (1 Gorffennaf 1961 – 31 Awst 1997), gwraig cyntaf Siarl, Tywysog Cymru
- Charles Edward Maurice Spencer, 9fed Iarll Spencer (20 Mai 1964), a briododd Victoria Lockwood, ac wedyn Caroline Freud (gweddw Matthew Freud)
Priododd Raine, Iarlles Dartmouth, ar 15 Gorffennaf 1976.
Llinach
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Edward John Spencer, 8th Earl Spencer. thePeerage.com.
- ↑ Royal Household of Buckingham Palace. Diana, Princess of Wales biography. Royal.gov.uk.