David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Ffermwr a bardd Cymreig oedd David Owen , sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Dewi Wyn o Eifion (Mehefin 1784 – 17 Ionawr 1841).
David Owen | |
---|---|
Dewi Wyn o Eifion, portread olew gan William Roos. | |
Ffugenw | Dewi Wyn o Eifion |
Ganwyd | Mehefin 1784 Llanystumdwy |
Bu farw | 17 Ionawr 1841 Llanystumdwy |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | bardd, ffermwr |
Bywyd a gwaith
golyguGaned yn ffermdy'r Gaerwen ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Addysgwyd mewn ysgolion preifat yn nifer o'r penrefi cyfagos, ac am gyfnod byr ym Mangor Is Coed.
Bu'n ffermio yn y Gaerwen am y rhan fwyaf o'i oes, er iddo symud i fyw i Bwllheli o 1827 hyd 1837, daliodd ei afael yn y fferm. Dyswgwyd ef i farddoni gan Robert ap Gwilym Ddu, o fferm gyfagos y Betws Fawr. Enillodd fedal Cymdeithas y Gwyneddigion am awdl Molawd Ynys Brydain ac yn 1811 enillodd wobr eisteddfod Tremadog am Awdl i Amaethyddiaeth. Yn 1819 cystadlodd yn eisteddfod Dinbych ar Awdl Elusengarwch. Collodd y wobr, ac ni fu'n cystadlu eto. Ystyrir yr awdl yma yn un o'i weithiau gorau, ynghyd a'i englynion i Bont Menai (1832). Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a chofiant iddo dan y teitl Blodau Arfon yn 1842. Ail-gyhoeddwyd detholiad o'i waith yng Nghyfres y Fil yn 1906.
Dyfyniadau
golygu- Uchelgaer uwch y weilgi - gyr y byd
- Ei gerbydau drosti,
- Chwithau holl longau y lli
- Ewch o dan ei chadwyni .
- (Pont y Borth)[1]
- Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
- Rhoi angen un rhwng y naw.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Blodau Arfon (1842)
- Gwaith Dewi Wyn o Eifion (Cyfres y Fil, 1906)
Cyfeiriadau
golygu