John Williams (cerddor)
Cerddor o Gaernarfon oedd John Williams (Gorfyniawc o Arfon) (1814 – 27 Mawrth 1878).
John Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1814 Tal-y-bont |
Bu farw | 27 Mawrth 1878 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Cefndir
golyguGanwyd o yn Nhal-y-bont, ger Bangor, yn fab i Thomas Williams, llifiwr coed. Dysgodd elfennau o gerddoriaeth yn ysgol Robert Williams, Carneddi, Llanllechid. Pan oedd yn 25 aeth i Lerpwl, lle cafodd gyfarwyddyd pellach mewn cerddoriaeth gan Thomas Woodward; Dysgodd rhywfaint o Hebraeg hefyd. Cafodd swydd yn swyddfeydd cwmni nwy Lerpwl a daeth yn Brif Ysgrifennydd yr cwmni yn y pen draw.[1]
Yn 1847 dechreuodd gyhoeddi Y Canrhodydd Cymreig, mewn rhannau, ond oherwydd trwbl argraffu dim ond pedair rhan gafodd ei argraffu. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Gramadeg Cerddorol, ac yn y diwedd aeth yn golled ariannol iddo. Yn 1849 trefnodd rifyn newydd o Gramadeg Cerddoriaeth (John Mills). Ysgrifennodd erthyglau ar gerddoriaeth ar gyfer Y Gwyddoniadur Cymreig, a chyfansoddodd neu drefnodd emynau ar gyfer Telyn Seion (R. Beynon), ar gyfer Seren Gomer, ac ar gyfer rhai casgliadau a gyhoeddwyd gan Richard Mills. Bu'n feirniadu mewn amryw o wyliau cerddorol ac yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon yn 1862.
Ffynonellau
golygu- M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890)
- Y Cylchgrawn, 1851
- Y Cerddor, Mehefin 1893.