Johnny Hallyday
actor a chyfansoddwr a aned yn 1943
Actor a brenin roc a rôl Ffrainc oedd Johnny Hallyday (15 Mehefin 1943 – 6 Rhagfyr 2017). Ei enw bedydd oedd Jean-Philippe Smet. Daeth ei deulu o Wlad Belg a fe'i anwyd ym Mharis. Cymerodd Johnny ddinesyddiaeth Ffrengig yn 1961. Yn Ionawr 2006 ceisiodd ailgymryd dinesyddiaeth Gwlad Belg ond ni dderbyniwyd ei gais.
Johnny Hallyday | |
---|---|
Ffugenw | Johnny Hallyday |
Ganwyd | Jean-Philippe Clerc 15 Mehefin 1943 9fed bwrdeistref Paris |
Bu farw | 5 Rhagfyr 2017 o canser yr ysgyfaint Marnes-la-Coquette |
Label recordio | Disques Vogue, Universal Music France, Warner Music Group, PolyGram |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | actor, cyfansoddwr, canwr, artist recordio, actor ffilm, actor teledu, chansonnier |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc a rôl, chanson, roc y felan, canu gwlad roc, French rock, cerddoriaeth boblogaidd, sentimental ballad, y felan, rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, canu gwlad, roc seicedelig |
Math o lais | baryton-Martin |
Tad | Léon Smet |
Priod | Laeticia Boudou, Adeline Blondieau, Sylvie Vartan, Babeth Étienne, Adeline Blondieau |
Partner | Nathalie Baye, Gisèle Galante, Sabina, Leah |
Plant | David Hallyday, Laura Smet, Jade Smet, Joy Smet |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, chevalier des Arts et des Lettres, Swyddog Urdd y Coron, Victoires de la Musique – Male artist of the year, Q16682556 |
Gwerthodd Hallyday dros 100 miliwn record yn fyd-eang ac enillodd 18 albwm platinwm. Fe ddechreuodd fel actor o dan ei enw iawn, ond yn 1960 fe wnaeth ei record gyntaf dan yr enw "Johnny Hallyday". Ei record boblogaidd gyntaf oedd y gân roc a rôl "Souvenirs, souvenirs". Fe'i dilynodd yn 1961 gyda "Viens danser le twist", "Elle est terrible", "L'idole des jeunes" a "Retiens la nuit".
Ffilmiau
golygu- 1955 : Les Diaboliques (Jean-Philippe Smet yn 10 oed !)
- 1964 : D’où viens-tu Johnny?
- 1964 : Cherchez l'idole
- 1967 : Â tout casser
- 1968 : Les Poneyttes
- 1969 : Five plus One (cyngerdd Johnny Hallyday a'r Rolling Stones)
- 1984 : Détective de Jean-Luc Godard
- 1987 : Terminus
- 1989 : David Lansky (cyfres deledu)
- 1990 : Le Triangle de fer
- 1991 : La Gamine
- 2003 : L'homme du train'
- 2003 : Wanted (gyda Gérard Depardieu a Renaud Séchan)
- 2004 : Les Rivières pourpres 2
- 2005 : Quartier VIP
- 2005 : Commissaire Moulin (teledu)