Jonah Lomu
Roedd Jonah Tali Lomu (12 Mai 1975 - 18 Tachwedd 2015) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb sydd wedi chwarae 63 o gêmau rhyngwladol dros Seland Newydd.
Jonah Lomu | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Jonah Tali Lomu ![]() 12 Mai 1975 ![]() Auckland ![]() |
Bu farw |
18 Tachwedd 2015 ![]() Achos: methiant yr arennau, syndrom neffrotig, ataliad y galon ![]() Auckland ![]() |
Dinasyddiaeth |
Seland Newydd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra |
196 centimetr ![]() |
Pwysau |
119 cilogram ![]() |
Gwobr/au |
Member of the New Zealand Order of Merit ![]() |
Gwefan |
http://www.jonahlomu.com/ ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au |
Y Barbariaid, Counties Manukau Rugby Football Union, Blues, Chiefs, Wellington Rugby Football Union, Hurricanes, Gleision Caerdydd, North Harbour Rugby Union, Rugby Club Stade Phocéen, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd ![]() |
Safle |
Asgellwr ![]() |
Ganed Lomu yn Auckland yn Seland Newydd, er fod ei deulu yn hannu o Tonga. Dechreuodd ei yrfa rygbi fel blaenwr, ond yn ddiweddarach trodd yn asgellwr. Er gwaethaf ei faint, roedd yn syndod o gyflym; yn ei ddyddiau gorau gallai redeg 100 llath mewn 10.8 eiliad.
Chwaraeodd rygbi i dîm Counties Manukau, ac enillodd ei gap cyntaf i'r Crysau Duon yn 1994 yn erbyn Ffrainc pan oedd yn 19 mlwydd a 45 diwrnod oed, yr ieuengaf erioed i chwarae i Seland Newydd. Yng Nghwpan y Byd yn 1995 sgoriodd saith cais mewn pum gêm, gan gynnwys pedair cais yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Lloegr. Ar ei orau roedd bron ym amhosibl ei atal oherwydd ei gyfuniad o nerth a chyflymdra. Yng Nghwpan y Byd yn 1999 sgoriodd wyth cais.
Ddiwedd 1996 darganfuwyd fod gan Lomu afiechyd prin a difrifol ar ei arennau. Yng Ngorffennaf 2004 trawsblannwyd un o'i arennau, oedd wedi ei rhoi iddo gan Grant Kereama. Wedi'r trawsblaniad llwyddiannus, ail-ddechreuodd chwarae rygbi, ond anafodd ei ysgwydd mewn gêm yn Twickenham. Mae wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i chwarae i North Harbour yn Seland Newydd, ac mae hefyd wedi cytuno i chwarae i dîm Gleision Caerdydd tu allan i'r tymor rygbi yn Seland Newydd. Dechreuodd chwarae i Gaerdydd yn Rhagfyr 2005.
Bu farw Lomu yn 40 oed yn Auckland.
Dolen allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol