Jonathan Ross
Cyflwynydd teledu a radio o Loegr yw Jonathan Stephen Ross OBE (ganed 17 Tachwedd 1960 yn Llundain), neu "Wossy", sydd wedi ennill gwobrau BAFTA. Daeth i amlygrwydd gyntaf yn yr 1980au gyda'i sioe siarad The Last Resort with Jonathan Ross ar Channel 4. Aeth ymlaen i wneud sawl rhaglen i'r BBC gan gyflwyno The Film Programme rhwng 1999 a 2010, sioe siarad wythnosol Friday Night with Jonathan Ross rhwng 2001 a 2010, a sioe radio ar BBC Radio 2 rhwng 1999 a 2010. Gadawodd y BBC yn 2010 a cychwynnodd ei sioe siarad newydd ar ITV yn Medi 2011.
Jonathan Ross | |
---|---|
Ganwyd | Jonathan Stephen Ross 17 Tachwedd 1960 St Pancras |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, newyddiadurwr, cyflwynydd radio, actor ffilm, sgriptiwr, beirniad ffilm, actor teledu, cynhyrchydd teledu |
Mam | Martha Ross |
Priod | Jane Goldman |
Gwobr/au | OBE |
The Russell Brand Show ac Andrew Sachs
golyguGwaharddwyd Ross o'i waith ar y 18 Hydref, 2008 wedi iddo ymddangos ar sioe y digrifwr Russell Brand. Tra ar The Russell Brand Show, gwnaeth Ross a Brand gyfres o alwadau ffôn i'r actor 78 mlwydd oed Andrew Sachs, gan adael negeseuon ar ei beiriant ateb. Prin oedd y diddordeb i ddechrau, ond cafwyd erthyglau papur newydd am y nifer uchel o gwynion a wnaed. Ymddiswyddodd Brand o'r BBC a gwaharddwyd Ross o'i swydd yn ddi-dâl am 12 wythnos gan ddechrau ar y 29 Hydref. Dywedodd Uwch-Gyfarwyddwr y BBC, Mark Thompson y dylai Ross ystyried y camau disgyblu hyn fel ei gyfle olaf.
Ar yr 21ain o Dachwedd 2008, dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC fod y galwadau ffôn yn "deplorable intrusion with no editorial justification"[1] Cefnogodd yr ymddiriedolaeth gwaharddiad 12 wythnos Ross ond argymhellwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn. Dychwelodd Ross i'w waith yn Ionawr 2009 a darlledwyd y rhaglen gyntaf o Friday Night With Jonathan Ross ar y 23ain o Ionawr 2009. Y gwestai oedd Tom Cruise, Stephen Fry a Lee Evans, a chafwyd cerddoriaeth gan y band Franz Ferdinand.