Jordi Borràs i Abelló
Newyddiadurwr a dyluniwr Catalan yw Jordi Borràs i Abelló.[1]
Jordi Borràs i Abelló | |
---|---|
Ganwyd | 1981 Vila de Gràcia |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, darlunydd, ffotonewyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Desmuntant Societat Civil Catalana, Warcelona, una història de violència, Plus ultra. Una crònica gràfica de l'espanyolisme a Catalunya, Days that will last for years, La cara B del procés |
Prif ddylanwad | Xavier Vinader |
Perthnasau | Xavier Borràs |
Gwobr/au | 2N Awards, Q116240115 |
Gwefan | http://jborras.cat |
Gyrfa
golyguDerbyniodd radd uwch mewn dylunio ym Mhrifydgol Massana, Barcelona, lle arbenigodd hefyd mewn ffotograffeg. Gweithiodd ym maes problemau cymdeithasol, er mwyn eu dod a nhw i'r golwg, yn gyhoeddus. Bu'n flaenllaw gyda chyfryngau fel Nació Digital, La Directa ac El Temps gan gyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwiliol.
Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei liwt ei hun i bapurau a gwefannau fel El Crític, El Món yn ogystal â'r cylchgrawn Basgeg Argia, gan gyhoeddi nifer o adroddiadau am ymgyrchoedd y 'dde caled' yng Nghatalwnia.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Warcelona, una història de violència (Polen Edicions, 2013)
- Plus Ultra. A graphic chronicle of Spanishism in Catalonia (Polen Edicions, 2015)
- Desmuntant Societat Civil Catalana (Saldonar , 2015).[2]
- Dies que duraran anys (Ara Llibres, 2018): cyfrol o ffotograffau y dynnodd ar ddiwrnod Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017.
Bygythiadau ac ymosodiad
golyguYn dilyn rhai o'r adroddiadau hyn, derbyniodd sawl bygythiad gan grwpiau Ffasgwyr yn 2013 ac ymchwiliodd yr heddlu i'r bygythiadau hyn.[3][4]
Yng Ngorffennaf 2018 ymosodwyd arno yng nghanol tref Barcelona, liw dydd, gan aelod o'r Heddlu a waeddodd arno “viva Franco” a “viva España”.[3]
Gwobr
golyguYn 2016 Derbyniodd 'Wobr Urddas' gan La Fundació Comissió de la Dignitat lliura el Premi Dignitat.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Catalan photojournalist Jordi Borràs beaten by Spanish policeman". Ara.cat (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2018-07-22.
- ↑ "Anti-Catalan violence no longer restricted to the extreme right". Catalan News Monitor (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-22.
- ↑ 3.0 3.1 "Spain: Photojournalist Jordi Borrás attacked in Barcelona". European Federation of Journalists (yn Saesneg). 2018-07-18. Cyrchwyd 2018-07-22.
- ↑ "How the Catalan crisis helps Spain's far right". www.aljazeera.com. Cyrchwyd 2018-07-22.