Jordi Cuixart i Navarro

Gŵr busnes a chenedlaetholwr o Gatalwnia yw Jordi Cuixart i Navarro (ganwyd 22 Ebrill 1975), sy'n ymgyrchydd dros iaith a diwylliant Catalaneg. Bu'n Llywydd Diwylliannol mudiad Omnium ers mis Rhagfyr 2015.[1]

Jordi Cuixart i Navarro
GanwydJordi Cuixart Navarro Edit this on Wikidata
22 Ebrill 1975 Edit this on Wikidata
Santa Perpètua de Mogoda Edit this on Wikidata
Man preswylSabadell, Santa Perpètua de Mogoda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Institut Escola Industrial Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson busnes, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Òmnium Cultural, cadeirydd, cadeirydd Edit this on Wikidata
PriodTxell Bonet Edit this on Wikidata
PerthnasauJosep Navarro Zapata Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 31 Rhagfyr, Creu de Sant Jordi Edit this on Wikidata
llofnod

Cefndir golygu

Ganed Cuixart yn Navarro yn Santa Perpètua de Mogoda, yn y Vallès Occidental, Catalwnia yn fab i fam o Murcia a thad o Gatalwnia. 

Gwaith golygu

Cuixart yw sylfaenydd a phennaeth Aranow, cwmni sy'n cynhyrchu peiriannau pecynnu yn Barcelona. Mae'n aelod o Ganolfan Metelegol Catalwnia ac yn noddwr a sefydlwr FemCAT cymdeithas i entrepreneuriaid o Gatalwnia. 

Gweithgaredd diwylliannol a chenedlaetholgar golygu

Ymunodd ag Òmnium Cultural, mudiad i hyrwyddo iaith a diwylliant Catalaneg, ym 1996. Gwasanaethodd fel trysorydd ac is-lywydd y mudiad cyn cael ei benodi yn llywydd arni ar 19 Rhagfyr 2015.[2]

 
Cuixart yn annerch Omnium wedi iddo gael ei ethol yn llywydd

Cymerodd ran yn yr ymgyrch wleidyddol Ara es l'hora (nawr yw'r awr) a oedd yn ceisio troi etholiadau i senedd Catalwnia 2015 yn bleidlais o blaid annibyniaeth i'r wlad. O dan ei arweiniad, trefnodd Omnium ymgyrch o'r enw Lluites compartides (rhannu'r frwydr) sy'n anrhydeddu gweithredwyr brwydrau cymdeithasol Catalaneg ers y 1950au, a oedd yn ymgyrchu i greu gwlad well a thecach.

Bu'n gyfrifol am ehangu gwaith Omnium y tu hwnt i'r frwydr iaith a diwylliant i geisio creu consensws ymysg pobl y wlad ar faterion cymdeithasol. Trefnodd gyfarfodydd, trafodaethau a chynadleddau a gynhaliwyd o Dachwedd 2016 i Ebrill 2017 ar amrywiol bynciau, megis ymwrthod â gwleidyddiaeth cefnogwyr cyfoes Franco; heddychiaeth, amddiffyn y Gatalaneg, brwydrau undebau llafur a symudiadau amgylcheddol.

O dan ei arweinyddiaeth daeth Omniwm yn bartner mewn menter Lliures de Pobresa, Exclusió i Desigualtats (rhydd o dlodi, allgau ac anghydraddoldeb), sef ymgyrch gan y gymdeithas sifil yn erbyn effeithiau parhaus yr argyfwng economaidd. Mae'r ymgyrch yn beirniadu diffyg gweithredu'r awdurdodau cyhoeddus. Mae wedi bod yn hynod o feirniadol wladwriaeth Sbaen am y modd y mae wedi ymosod yn systematig ar bolisïau cymdeithasol a gwrth tlodi llywodraeth Catalwnia trwy ei ddefnydd o'r Llys Cyfansoddiadol.

Carcharu golygu

Ar 4 Hydref, 2017, cyhuddwyd Jordi Cuixart a Jordi Sànchez i Picanyol (llywydd Cyngres Genedlaethol Catalwnia) o greu cynnwrf yn erbyn y wladwriaeth am eu rhan wrth drefnu refferendwm Annibyniaeth Catalwnia, 1 Hydref 2017. Ar 16 Hydref, 2017 cafodd y ddau eu carcharu am gyfnod ataliol er mwyn i'r awdurdodau chwilio am brawf o'u troseddau honedig. Arweiniodd eu carchariad at brotestiadau enfawr yng Nghatalwnia[3] a chafodd eu carchariad ei feirniadu gan Amnest Rhyngwladol am fod yn rhy llawdrwm[4].

Cyfeiriadau golygu