Cymdeithas o bobl gyda'u pencadlys yn Barcelona, Catalwnia, yw Òmnium Cultural a sefydlwyd yn y 1960au i hyrwyddo'r Gatalaneg a diwylliant Catalwnia.[1] Bellach, mae hefyd yn ymwneud â materion cymdeithasol, ac yn 2012 datganodd ei bod o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.[2][3]

Òmnium Cultural
Math
sefydliad diwylliannol
Sefydlwyd11 Gorffennaf 1961
CadeiryddMuriel Casals i Couturier, Jordi Cuixart i Navarro, Quim Torra
PencadlysBarcelona
Refeniw8,682,739 Ewro (2020)
Gwefanhttps://www.omnium.cat/ Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Daeth Òmnium Cultural i fodolaeth ar 11 Gorffennaf 1961, pan oedd yr unben Francisco Franco wedi gwahardd y defnydd o'r Gatalaneg yn y cyfnod a elwir yn España franquista. Ataliwyd y gymdeithas rhag gweithredu mewn unrhyw fodd yn 1963, ond gweithredodd yn dawel rhwng 1963 a 1967 pan ymladdodd achos mewn llys, a rhoddwyd yr hawl i'r gymdeithas fodoli, unwaith eto.

Daeth unbeniaeth totalitaraidd Franco i ben yn 1975 a sefydlodd Òmnium nifer o wobrau a nawdd cenedlaethol er mwyn hyrwyddo diwylliant Catalanaidd, gan gynnwys Premi d'Honor de les Lletres Catalanes (1969) a gŵyl ddiwylliannol y Nit de Santa Llúcia . Gweithiodd ar y cyd gyda Llywodraeth Catalwnia i hyrwyddo iaith a diwylliant. Yn 1984, am ei waith ddiflino, derbyniodd Òmnium y wobr Creu de Sant Jordi gan Lywodraeth Catalwnia.[4][5]

Yn 2010, pan wrthododd Llys Cyfansoddiadol Sbaen Ddeddf Ymreolaeth newydd y Llywodraeth, trefnodd Òmnium brotest o dros filiwn o bobl ar strydoedd Barcelona.[6][7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Òmnium Cultural". Òmnium Cultural. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
  2. Ediciones El País. "Òmnium adapta su ideario al secesionismo". EL PAÍS. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
  3. "What's going on in Catalonia?". Òmnium Cultural. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
  4. "Resultats i fitxa". Diari Oficial de la Generalitat de Catalunya.
  5. "Muriel Casals releva a Jordi Porta al frente de Òmnium". Cyrchwyd 2015-06-23.
  6. Gaspar Pericay Coll. "Catalan News Agency - The Constitutional Court rejects the exclusion of its President requested by the Catalan Government". catalannewsagency.com. Cyrchwyd 23 Medi 2015.
  7. Nodyn:Cite av media