Jorge Edwards
Nofelydd a beirniad llenyddol Sbaeneg a diplomydd o Tsile oedd Jorge Edwards (29 Mehefin 1931 – 17 Mawrth 2023) sy'n nodedig am ei hunangofiant o'i gyfnod yn llysgennad Tsile i Giwba, Persona non grata (1973).[1]
Jorge Edwards | |
---|---|
Ganwyd | Jorge Edwards Valdés 29 Mehefin 1931 Santiago de Chile |
Bu farw | 17 Mawrth 2023 Madrid |
Dinasyddiaeth | Tsile, Sbaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, diplomydd, beirniad llenyddol, llenor, awdur storiau byrion, nofelydd, awdur ysgrifau |
Swydd | ambassador of Chile to France |
Arddull | cronicl, cofiant |
Plaid Wleidyddol | Evópoli |
Tad | Sergio Edwards Irarrázabal |
Mam | Carmen Valdés Lira |
Priod | Pilar de Castro Vergara |
Llinach | Teulu Edwards |
Gwobr/au | Gwobr Miguel de Cervantes, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, Officier des Arts et des Lettres, Cymrodoriaeth Guggenheim |
Ganwyd yn Santiago de Chile i deulu o dras Gymreig. Derbyniodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Tsile yn 1958 ac ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol. Fe'i anfonwyd gan y llywodraeth i astudio gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Princeton yn 1959. Yn ystod ei yrfa lenyddol gynnar cyhoeddodd sawl casgliad o ffuglen fer, gan gynnwys El patio (1952), Gente de la ciudad (1961), Las máscaras (1967), a Temas y variaciones (1969), sy'n ymwneud â chymeriadau dosbarth-canol sy'n gweithio yn y fiwrocratiaeth. Mae ei nofelau hefyd yn ymdrin â bywyd y dosbarth canol a themâu gwleidyddol, yn eu plith El peso de la noche (1965), Los convidados de piedra (1978), El museo de cera (1981), La mujer imaginaria (1985), El anfitrión (1987), ac El origen del mundo (1996).
Yn ei lyfr Persona non grata, sy'n ymwneud â'i brofiadau yn llysgennad i Giwba yn nechrau'r 1970au, mynegodd Edwards feirniadaeth o lywodraeth sosialaidd Fidel Castro. Derbyniodd ymateb cymysg gan lenorion eraill ar draws America Ladin, nifer ohonynt yn aelodau'r adain chwith.
Derbyniodd Wobr Cervantes yn 1999. Mae ei gweithiau diweddarach yn cynnwys El inútil de la familia (2004), sy'n seiliedig ar hanes ei ewythr, a La casa de Dostoievsky (2008), stori am fardd yr avant-garde sy'n teithio i Giwba yn y 1960au. Ysgrifennodd Edwards hefyd y gyfrol Adiós, poeta (1990), astudiaeth o Pablo Neruda.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Who was Jorge Edwards?". Al Dia (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-26. Cyrchwyd 26 Mawrth 2023.
- ↑ (Saesneg) Jorge Edwards. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2019.