Joseba Elosegu
Roedd Joseba Elosegu Odriozola (1915–1990) yn wleidydd Basgaidd.
Joseba Elosegu | |
---|---|
Ganwyd | 6 Rhagfyr 1915 Donostia |
Bu farw | 5 Tachwedd 1990 o trawiad ar y galon Donostia |
Dinasyddiaeth | Gwlad y Basg |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Aelod o Senedd Sbaen |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg, Eusko Alkartasuna |
Bywgraffiad golygu
Cafodd Odriozola ei eni yn Donostia. Astudiodd fasnach yn Donostia a chelfyddyd gain ym Mharis. Fel aelod o Blaid Genedlaethol Gwlad y Basg (EAJ), roedd yn gapten yn ym mrwydr "Saseta" ac yn gadlywydd y fyddin weriniaethol yng Nghatalwnia yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth yn 1937, ond fe'i rhyddhawyd yn y pen draw ar ôl cyfnewid carcharorion rhyfel. Ymladdodd yn ddiweddarach gyda 145fed Brigâd Gymysg y 44fed Adran. Ar ddiwedd y rhyfel, croesodd ei uned dros y ffin i Ffrainc ac aeth i alltudiaeth yn Ffrainc.
Ar 18 Gorffennaf, 1946, gosododd ikurriña (baner Gwlad y Basg, a oedd wedi’i gwahardd yn ystod unbennaeth Franco) ar ben Eglwys Gadeiriol y Bugail Da yn Donostia. Ar 18 Medi, 1970, tra roedd Franco yn agor Pencampwriaeth Pelota y Byd yn pilotaleku Anoeta (pilotaleku yw cwrt chwarae pelota) yn Donostia, lansiodd Elosegu ei hun, ar ôl rhoi ei hun â’r dân, o'r ail oriel gan weiddi 'Gora Euskadi askatuta' (Hir oes Gwlad y Basg rydd).[1] O ganlyniad i'r weithred hon, a anafodd ddau arolygydd heddlu yn ddifrifol, treuliodd ddiwrnod rhwng byw a marw a chafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar.
Yn 1977 cyhoeddodd y llyfr Quiero morir por algo, (Rwyf am farw dros rywbeth). Ynddo, mae'n adrodd hanes, yn y person cyntaf, bomio Gernika yn ystod y rhyfel cartref gan Leng Condor Almaenig a Lleng Hedfan Eidalaidd, a oedd yn ymladd o blaid y gwrthryfelwyr yn erbyn y weriniaeth. Fe'i etholwyd yn seneddwr ar restrau EAJ yn y tair deddfwrfa gyntaf yn etholiadau 1979, 1982 a 1986, a bu’n seneddwr rhwng 1 Mawrth, 1979 a 2 Medi, 1989.
Ar 6 Mehefin, 1984, mewn digwyddiad enwog, cipiodd ikurriña bataliwn Itxarkundia a oedd wedi’i chynnwys ymhlith casgliad o faneri o dan yr enw "baneri'r ochr weriniaethol yn ystod y rhyfel i ryddhau’r wlad" mewn arddangosfa yn Amgueddfa’r Fyddin, Madrid.[2] Oherwydd ei fod yn seneddwr ar y pryd, roedd yn rhaid i'r llys cymwys ofyn am ddeiseb berthnasol gan Senedd Sbaen, a wrthodwyd drwy benderfyniad Comisiwn Deisebau'r Senedd ar 4 Medi , 1985, ac felly nid oedd modd ei erlyn.
Ar ôl hollt ym Mhlaid Genedlaethol Gwlad y Basg yn 1986, daeth yn aelod o blaid newydd Eusko Alkartasuna. Bu farw o ataliad y galon ar 5 Tachwedd, 1990, yn 74 oed.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Ysgrif coffa. 6 Tachwedd 1990. El País.
- ↑ 14 Tachwedd 1984. El País.