Joseff I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Joseff I (26 Gorffennaf 1678 – 17 Ebrill 1711) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1705 i 1711.
Joseff I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1678 Fienna |
Bedyddiwyd | 27 Gorffennaf 1678 |
Bu farw | 17 Ebrill 1711 Fienna |
Dinasyddiaeth | y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, teyrn |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Prince-Elector, brenin Bohemia, brenin Hwngari |
Tad | Leopold I |
Mam | Eleonor Magdalene o Neuburg |
Priod | Wilhelmine Amalia o Brunswick-Lüneburg |
Plant | Maria Josepha o Awstria, Archduke Leopold Joseph of Austria, Maria Amalia o Awstria |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur |
llofnod | |
Ganed yn Fienna, yn fab hynaf i'r Ymerawdwr Leopold I. Coronwyd Joseff yn Frenin Hwngari yn 1687 ac yn Frenin y Rhufeiniaid yn 1690. Yn ystod Rhyfel Olyniaeth Sbaen (1701–14) cefnogodd Joseff hawl ei frawd iau, Siarl, i goron Sbaen, mewn ymgais i'w chadw dan reolaeth y Hapsbwrgiaid. Bu farw yr Ymerawdwr Leopold yn 1705, a fe'i olynwyd gan Joseff. Aeth ati i ad-drefnu cyllid y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ac i wladoli banc Fienna. Enillodd lluoedd Awstria sawl buddugoliaeth, dan arweiniad Eugene, Tywysog Safwy, yn yr Eidal, yr Almaen, a'r Iseldiroedd, ond ni chafodd gwrthryfel Ferenc II Rákóczi yn Hwngari ei ostegu nes ar ôl marwolaeth Joseff. Yn 1707, bu ar fin brwydro'n erbyn Sweden wedi i luoedd y Brenin Siarl XII heidio i dir Awstria yn ystod y rhyfel yn erbyn Frederick Augustus I, Etholydd Sachsen. Bu ymgecru rhwng Joseff a'r Babaeth ar ei anterth yn 1708 pan cydnabuwyd Philip V yn frenin Sbaen gan y Pab Clement XI. Ymosododd lluoedd Awstria ar diroedd y Babaeth nes i'r Pab ail-ymuno ag achos y Hapsbwrgiaid yn 1709. Bu farw Joseff yn Fienna o'r frech wen yn 32 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei frawd Siarl VI.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Joseph I (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2020.