Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Tywysog o Dŷ Hapsbwrg oedd Siarl VI (1 Hydref 1685 – 20 Hydref 1740) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig, yn Frenin Bohema, Hwngari a Chroatia, ac yn Archddug Awstria o 1711 i 1740.
Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1685 Fienna |
Bu farw | 20 Hydref 1740 Fienna |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari |
Priod | Elisabeth Christine o Brunswick-Wolfenbüttel |
Plant | Archduchess Maria Amalia of Austria, Leopold Johann, Archddug Awstria |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur |
llofnod | |
Ganed yn Fienna, Archddugiaeth Awstria, yn ail fab i Leopold I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a'i wraig Eleonore Magdalene Therese. Yn sgil marwolaeth ei gefnder Siarl II, brenin Sbaen yn 1700, Siarl oedd un o'r rhai i hawlio'r goron yn Rhyfel Olyniaeth Sbaen (1701–14). Cydnabuwyd ei hawl gan Loegr, yr Iseldiroedd, Portiwgal, a'r rhan fwyaf o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Er gwaethaf, llwyddodd Siarl i reoli Tywysogaeth Catalwnia yn unig. Bu farw yr Ymerawdwr Leopold yn 1705, a fe'i olynwyd gan frawd hŷn Siarl, Joseff I. Wedi marwolaeth Joseff yn 1711, etifeddodd Siarl holl diriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd a theitlau'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Brenin Hwngari, Brenin Croatia, Brenin Bohemia, ac Archddug Awstria. Bellach, nid oedd ei gynghreiriaid yn fodlon iddo sicrhau Sbaen hefyd, a chafodd Philip V o Dŷ Bourbon ei gydnabod yn frenin Sbaen gan Gytundeb Utrecht yn 1713. Er iddo orfod ffoi o Sbaen, parhaodd y brwydro rhwng lluoedd Siarl â'r Ffrancod nes Cytundeb Rastatt yn 1714, ac enillodd Siarl ambell diriogaeth yn yr Eidal.[1]
Trodd Siarl ei sylw i'r dwyrain, ac enillodd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd diriogaethau'r Banat, Serbia, Oltenia, a gogledd Bosnia oddi ar yr Ymerodraeth Otomanaidd yn rhyfel 1716–18. Sefydlwyd Cwmni Oostendse yn 1722 i gystadlu'n erbyn y Prydeinwyr a'r Iseldirwyr yn y Byd Newydd ac India'r Dwyrain, a bu hwnnw'n dwyn elw i'r Hapsbwrgiaid cyn i Deyrnas Prydain Fawr orfodi ei ddiwedd yn 1731 er mwyn ymgynghreirio â'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cafodd lluoedd Siarl eu gorchfygu yn Rhyfel Olyniaeth Pwyl (1733–35) a chollodd y Hapsbwrgiaid deyrnasoedd Napoli a Sisili i'r Bourboniaid. Bu'r Otomaniaid yn drech ar y Hapsbwrgiaid yn rhyfel 1737–39, ac ildiodd Siarl ei diriogaethau a enillwyd ugain mlynedd ynghynt yn ôl iddynt.[1]
Priododd Siarl ag Elisabeth Christine, Tywysoges Brunswick-Wolfenbüttel, yn 1708, a bu farw eu hunig fab, Leopold, yn saith mis oed. Yn niwedd ei deyrnasiad, ymdrechodd Siarl i sicrhau olyniaeth ei ferch hynaf, Maria Theresa, yn seiliedig ar y Datganiad Pragmatig a gyhoeddwyd ganddo yn 1713. Bu farw Siarl yn Fienna yn 1740 yn 55 oed. Er gwaethaf y Datganiad Pragmatig, gwrthwynebwyd hawl Maria Theresa i'r goron gan sawl ymhonnwr, a sbardunwyd Rhyfel Olyniaeth Awstria (1740–8).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Charles VI (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Ebrill 2020.