Joseph Brahim Seid

Llenor yn yr iaith Ffrangeg a gwleidydd o Tsiad oedd Joseph Brahim Seid (19271980).

Joseph Brahim Seid
Ganwyd1927 Edit this on Wikidata
N'Djamena Edit this on Wikidata
Bu farw1980 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsiad Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganwyd ef yn N'Djamena, prifddinas y wlad ers annibyniaeth ym 1960. Gwasanaethodd fel Gweinidog Cyfiawnder Tsiad o 1966 i 1975. Fel awdur mae'n adnabyddus am y gweithiau “Au Tchad sous les étoiles” ("Yn Tsiad o dan y sêr", 1962); Troswyd tair o’i straeon byrion o’i gasgliad yma i’r Gymraeg gan Mair Hunt. Cyhoeddwyd ‘’Un enfant du Tchad’’ (“Plentyn Tsiad", 1967 ), yn seiliedig ar ei fywyd ei hun.

Gwr o’r Sahel (safanna neu paith) gwelltog yw’r awdur ac mae blas Islam a chredoau cynhenid ei gyd-wladwyr i’w cael yn ei straeon byrion.

Cyfeiriadau golygu