Joseph Dines
Chwaraewr pêl-droed amatur Seisnig oedd Joseph "Joe" Frank Dines (12 Ebrill 1886 – 27 Medi 1918). Cynyrchiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd 1912 fel aelod o Dîm Cenedlaethol Pêl-droed Amatur Lloegr, a enillodd y fedal aur. Chwaraeodd ym mhob un o'r tair gêm a chwaraeodd y tîm yn y gystadleuaeth.
Joseph Dines | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ebrill 1886 King's Lynn |
Bu farw | 27 Medi 1918 Pas-de-Calais |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Lerpwl, Norwich City F.C., Arsenal F.C., Millwall F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr, United Kingdom national association football team |
Safle | canolwr |
Gwlad chwaraeon | Lloegr |
Ganwyd Dines yn King's Lynn, Norfolk lle bu'n gweithio fel athro mewn ysgol. Caiff ei alwedigaeth ei restru ar gyfrifiad 1901 fel National Schools' Monitor.[1] Symudodd Dines i ardal Ilford/South Woodford yn ddiweddarach. Roedd yn is-lefftenant yn y fyddin, a laddwyd ar ffrynt gorllewinol Pas de Calais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chladdwyd yn Hagnicourt.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfrifiad 1901 - 4 Whitefriars Road, South Lynn, Norfolk
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Proffil ar DatabaseOlympics
- (Saesneg) Proffil ar LFC History