Josh Tarling
Seiclwr trac a ffordd o Gymru yw Michael Joshua Tarling[1] (ganwyd 15 Chwefror 2004). Ar hyn o bryd mae e'n seiclo ar gyfer y tîm Ineos Grenadiers.[2] Yn bencampwr Iau y Byd ddwywaith yn y treial amser, enillodd y treial amser elitaidd ym Mhencampwriaethau Beicio Ffordd Ewrop 2023.
Josh Tarling | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 2004 Aberaeron |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Taldra | 194 centimetr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Team Sky, FlandersColor Galloo Team |
Cafodd Tarling ei eni yn Aberaeron.[3] Daeth yn bencampwr Prydeinig dwbl wrth ennill y pwyntiau a’r gemau ymlid tîm ym Mhencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain 2022. [4]
Mae Tarling yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 ym Mharis, Ffrainc.[5] Roedd yn bedwerydd yn y ras 30 milltir yn erbyn y cloc.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Michael Joshua TARLING". UCI.org.
- ↑ "INEOS GRENADIERS" (yn Saesneg). UCI. Cyrchwyd 2 Ionawr 2023.
- ↑ "Josh Tarling - Beicio". Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
- ↑ "2022 National Track Championships". British Cycling (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2022.
- ↑ "Aberaeron cyclist Josh Tarling in Team GB squad for Olympics". Tivyside Advertiser (yn Saesneg). 27 Mehefin 2024. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Siom i'r Cymro Josh Tarling yn y Gemau Olympaidd". Newyddion S4C. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2024.