Tîm beicio proffesiynol Prydeinig yw Team Sky (Côd UCI: SKY) sy'n cystadlu ar Gylchdaith Proffesiynol yr UCI. Lleolir y tîm yng Nghanolfan Seiclo Cenedlaethol Prydain yn y Felodrom ym Manceinion, Lloegr, gyda chanolfan cynorthwyol yng Ngwlad Belg a chanolfan reoli yn Quarrata, Yr Eidal[1]. Rheolir y tîm gan gyn-gyfarwyddwr perfformiad British Cycling, Dave Brailsford.

Sky Professional Cycling Team
Gwybodaeth y Tîm
Côd UCI SKY
Lleoliad Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Sefydlwyd 2009
Disgyblaeth(au) Ffordd
Statws UCI ProTeam
Beiciau Pinarello
Personél Allweddol
Rheolwr Cyffredinol David Brailsford
Cyn enw(au)'r tîm
2010
2011-2013
2014
Sky Professional Cycling
Sky Procycling
Team Sky

Cyfranodd BSkyB £30 miliwn o nawdd i'r tîm i fod yn noddwyr enw'r tîm hyd diwedd 2013.[1] Mae'r tîm hefyd yn derbyn nawdd pellach gan News Corporation a Sky Italia. Pinarello sy'n cyflenwi fframiau a ffyrc y beiciau, y ffram Dogma 60.1. a ddefnyddwyd yn 2010.[2][3][4] Ar 5 Ionawr 2010, datganwyd mai Adidas oedd partner swyddogol dillad ac ategolion y tîm.[5] Mae Gatorade, M&S, Oakley, IG Markets a Jaguar hefyd yn noddwyr.

Yn ystod Tour de France 2011 newidiodd y tîm eu crysau o ddu i wyrdd er mwyn codi ymwybyddiaeth a chefnogi Sky Rainforest Rescue, partneriaeth tair blynedd rhwng Sky a'r World Wide Fund for Nature i geisio achub biliwn o goed yn nhalaith Acre ym Mrasil[6].

Ers 2013, mae'r cwmni dillad, Rapha, wedi bod yn gyfrifol am holl ddillad y tîm[7] ac ar 27 Awst 2013 cyhoeddwyd fod cwmni Pinarello wedi arwyddo cytundeb newydd i baratoi beiciau'r tîm hyd at ddiwedd tymor 2016[8]

Aelodau'r Tîm

golygu
yn gywir 11 Ionawr 2015

Rheolaeth y tîm

golygu
 
Car cefnogi Team Sky ar ddechrau Cymal 1, Tour de France 2010 yn Rotterdam

yn gywir 14 Ebrill 2014[9]

Swydd Enw
Rheolwr Cyffredinol   David Brailsford
Pennaeth Perfformiad   Tim Kerrison
Seiciatrydd y Tîm   Dr. Steve Peters
Rheolwr perfformiad   Rod Ellingworth
Cynorthwydd perffromiad   Shane Sutton
Rheolwr gweithredu   Carsten Jeppesen
Pennaeth gweithrediadau busnes   Fran Millar
Directeur sportif   Servais Knaven
Directeur sportif   Nicolas Portal
Directeur sportif   Dan Frost
Directeur sportif   Dario Cioni
Directeur sportif   Gabriel Rasch
Hyfforddwr rasio   Kurt Asle Arvesen
Hyfforddwr rasio   Shaun Stephens
Meddyg Alan Farrell
Meddyg Richard Freeman
Meddyg Phil Riley
Meddyg Richard Usher

Prif fuddugoliaethau

golygu

Grand Tours

golygu

2010

1af Cymal 1 Giro d'Italia, Bradley Wiggins
Arweinydd   Dosbarthiad cyffredinol Cymal 1, Bradley Wiggins
Arweinydd   Dosbarthiad pwyntiau wedi Cymal 1, Bradley Wiggins

2011

1af Cymal 6 ac 17 Tour de France, Edvald Boasson Hagen
Arweinydd   Reidiwr ifanc ar Cymal 1 - 6 Geraint Thomas
Gwobr brwydrol   ar Cymal 9, Juan Antonio Flecha
Gwobr brwydrol   ar Cymal 12, Geraint Thomas
1af Cymal 2 Vuelta a España, Chris Sutton
1af Cymal 17 Vuelta a España, Chris Froome
Arweinydd   Dosbarthiad cyffredinol ar Cymal 10, Chris Froome
Arweinydd   Dosbarthiad cyffredinol ar Cymal 11 – 14, Bradley Wiggins
Arweinydd   Dosbarthiad pwyntiau ar Cymal 2, Chris Sutton

2012

1af Cymal 2, 5 ac 13 Giro d'Italia, Mark Cavendish
Arweinydd   Dosbarthiad pwyntiau ar Cymal 2 a chymal 11 – 19, Mark Cavendish
Arweinydd   Reidiwr ifanc ar Cymal 14, Rigoberto Uran
Enillydd   Tour de France, Bradley Wiggins
1af Cymal 2, 18 a 20, Mark Cavendish
1af Cymal 7, Chris Froome
1af Cymal 9 a 19, Bradley Wiggins
Arweinydd   Brenin y mynyddoedd ar Cymal 7, Chris Froome
Arweinwyr   Dosbarthiad y timau Prolog  – Cymal 7

2013

1af Trofeo Fast Team Giro d'Italia
1af Cymal 2 (TTT) Y beicwyr yn y garfan oedd Dario Cataldo, Rigoberto Uran, Sergio Henao, Christian Knees, Danny Pate, Kanstantsin Sivtsov, Bradley Wiggins, Salvatore Puccio a Xabier Zandio
1af Cymal 10, Rigoberto Uran
Arweinydd   Dosbarthiad cyffredinol ar Cymal 2, Salvatore Puccio
Arweinydd   Reidiwr ifanc ar Cymal 2, Salvatore Puccio
Enillydd   Tour de France, Chris Froome
1af Cymal 8, 15 a 17 (ITT), Chris Froome
Arweinydd   Brenin y mynyddoedd Cymal 8 a 15 – 19 Chris Froome
1af Cymal 18 Vuelta a España, Vasil Kiryienka
Gwobr brwydrol   Cymal 19, Edvald Boasson Hagen

Pencampwyr cenedlaethol

golygu

2010

  Ras Ffordd Prydain — Geraint Thomas
  Ras yn erbyn y cloc Prydain — Bradley Wiggins
  Ras yn erbyn y cloc Norwy — Edvald Boasson Hagen

2011

  Ras Ffordd Prydain — Bradley Wiggins
  Ras yn erbyn y cloc Prydain — Bradley Wiggins
  Ras Ffordd Y Ffindir — Kjell Carlström
  Ras yn erbyn y cloc Norwy — Edvald Boasson Hagen

2012

  Ras Ffordd Norwy — Edvald Boasson Hagen
  Ras Ffordd Prydain — Ian Stannard
  Ras yn erbyn y cloc Prydain — Alex Dowsett

2013

  Ras yn erbyn y cloc Norwy — Edvald Boasson Hagen
  Ras yn erbyn y cloc Belarws — Kanstantsin Sivtsov

2014

  Ras Ffordd Prydain — Peter Kennaugh
  Ras yn erbyn y cloc Prydain — Bradley Wiggins
  Ras yn erbyn y cloc Belarws — Kanstantsin Sivtsov
  Ras yn erbyn y cloc y Byd — Bradley Wiggins

2015

  Ras yn erbyn y cloc Awstralia — Richie Porte
  Ras yn erbyn y cloc Belarws — Vasil Kiryienka
  Ras Ffordd Prydain — Peter Kennaugh
  Ras yn erbyn y cloc y Byd — Vasil Kiryienka
  European Omnium Ewropeaidd — Elia Viviani

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 William Fotheringham (2009-02-26). "Sky to sponsor British Tour de France team". London: The Guardian.
  2.  Richard Tyler (9 Hydref 2009). Pinarello named as Team Sky bike sponsor. Cyclingnews.com.
  3.  Sponsors: Pinarello. Team Sky. Adalwyd ar 22 Mawrth 2010.
  4.  Team Sky show off their Pinarello Dogmas. BikeRadar (11 Rhagfyr 2009).
  5.  Adam Fraser (5 Ionawr 2010). Adidas unveils apparel partnership with Team Sky. SportsPro Media.
  6. "Pro Cycling | Latest News | Team Sky go green for Tour". Team Sky. 2011-06-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-05. Cyrchwyd 2012-01-01.
  7. "Rapha supplying clothing". VeloNation. 2012-08-30.
  8. "Pinarello extends Team Sky partnership". Nodyn:Ct. BSkyB. 2013-08-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 2014-07-08.
  9. "Team Sky – As it happens". Cycling Weekly.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: