Juice Wrld
Roedd Jarad Anthony Higgins (2 Rhagfyr 1998 – 8 Rhagfyr 2019), a elwid yn broffesiynol yn Juice Wrld (gyda'r arddull Juice WRLD), yn rapiwr o'r Unol Daleithiau, canwr a chyfansoddwr o Chicago, Illinois. Cafodd ei gân "Lucid Dreams" ei chwarae ar blatfform ffrydio cerddoriaeth Spotify dros biliwn o weithiau gan gyrraedd rhif dau ar y Billboard Hot 100 Fe wnaeth "Lucid Dreams", ynghyd â'i sengl boblogaidd gynharach "All Girls Are the Same", ei helpu i sicrhau cytundeb recordio gyda Grade A Productions ac Interscope Records. Daeth ei enw llwyfan o'r rapiwr Tupac Shakur a'i ran yn y ffilm Juice a'i fod yn cynrychioli 'cymryd drosodd y byd'.[1]
Juice Wrld | |
---|---|
Ffugenw | Juice WRLD, JuiceTheKidd |
Ganwyd | Jarad Anthony Higgins 2 Rhagfyr 1998 Chicago |
Bu farw | 8 Rhagfyr 2019 o seizure Oak Lawn, Chicago |
Label recordio | Interscope Records, Grade A Productions, Polydor Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon |
Arddull | hip hop, trap music, emo rap, SoundCloud rap, roc amgen, pop rap, alternative hip-hop |
Gwobr/au | Billboard Music Award for Top New Artist |
Ganwyd Jarad Anthony Higgins ar 2 Rhagfyr 1998, yn Chicago, Illinois.[2] Fe’i magwyd yn rhan deheuol y dref, gan dreulio ei blentyndod ym Mharc Calumet ac yn ddiweddarach symudodd i Homewood,[3] lle mynychodd Ysgol Uwchradd Homewood-Flossmoor gan raddio yn 2017.[4] Ysgarodd ei rieni pan oedd yn dair oed,[5] gadawodd ei dad, gan adael ei fam i'w fagu fel mam sengl ynghyd ag un brawd hŷn.[6] Roedd mam Higgins yn grefyddol a cheidwadol iawn, a ni adawodd iddo wrando ar gerddoriaeth hip hop. Caniatawyd iddo wrando ar gerddoriaeth roc a phop, a daeth o hyd i hyn ar gemau fideo fel Pro Skater a Guitar Hero gan Tony Hawk, a gyflwynodd ef i artistiaid megis Billy Idol, Blink-182, Black Sabbath, Fall Out Boy, Megadeth a Panic! at the Disco.[1][7]
Dysgodd chwarae'r piano yn bedwar oed, ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei fam, Carmella Wallace, a ddechreuodd dalu am wersi yn ddiweddarach. Yna dysgodd y gitâr a'r drymiau. Chwaraeodd Higgins yr utgorn mewn band ar gyfer dosbarth yn yr ysgol.[8] Yn ei ail flwyddyn yn yr ysgol uwchradd, dechreuodd bostio caneuon i'w SoundCloud a recordiodd ar ei ffôn symudol.[9] Tua'r adeg hon, dechreuodd Higgins gymryd rapio o ddifrif.[10][11]
2015-2017: Dechreuadau, cytundeb record, a phrosiectau cynnar
golyguRhyddhawyd ei drac cyntaf a gynhyrchwyd gan ei brif gynhyrchydd Nick Mira, "Too Much Cash", yn 2017.[12] Tra'n rhyddhau prosiectau a chaneuon ar SoundCloud, roedd Higgins yn gweithio mewn ffatri ond roedd e'n anfodlon â'r swydd; cafodd ei wahardd o'r swydd o fewn pythefnos.[13] Ar ôl ymuno ag Internet Money, rhyddhaodd Higgins ei EP llawn cyntaf, 9 9 9, ar 15 Mehefin 2017, gyda'r gân "Lucid Dreams" a ddaeth yn boblogaidd a thyfu nifer ei ddilynwyr.[11][14]
Yng nghanol 2017, dechreuodd dderbyn sylw gan artistiaid eraill o Chicago. Arwyddodd gytundeb gyda label, Grade A Productions.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Durtty Daily (18 Gorffennaf 2018), Juice Wrld Shares Some of His Biggest Influences in Music & His Name Before He Was Juice Wrld., YouTube, https://www.youtube.com/watch?v=J_Fl4hMIrso, adalwyd 20 Awst 2018
- ↑ Coscarelli, Joe; Garcia, Sandra E. (December 8, 2019). "Juice WRLD, Rising Rap Artist, Dies at 21". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 8, 2019. Cyrchwyd December 9, 2019.
- ↑ "Chicago Rapper Juice WRLD Suffers 'Medical Emergency', Dies At 21". Patch. December 8, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2020. Cyrchwyd 7 Awst 2020.
- ↑ "Friends, Fans Mourn 'Accomplished' Chicago-Area Rapper Juice WRLD". NBC Chicago. December 8, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 9, 2019. Cyrchwyd December 9, 2019.
- ↑ "Juice Wrld's music is confusing but popular". Gulf Times. 30 Gorffennaf 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Awst 2018. Cyrchwyd 20 Awst 2018.
- ↑ No Jumper (7 Mawrth 2018), Juice Wrld Exposed!, YouTube, https://www.youtube.com/watch?v=X--KpcpzyzI, adalwyd 20 Mai 2018
- ↑ "Juice WRLD and the evolution of 'emo-rap'". 88Nine Radio Milwaukee. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Awst 2018. Cyrchwyd 20 Awst 2018.
- ↑ HOTSPOTATL (19 Gorffennaf 2018), Juice Wrld Shares What His Favorite Class in Grade School Is, YouTube, https://www.youtube.com/watch?v=gTH3AYUP9sE, adalwyd 20 Awst 2018
- ↑ Caramanica, Jon (25 Gorffennaf 2018). "The Chart-Topping Deep Feelings of Juice WRLD". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ionawr 2019. Cyrchwyd December 8, 2019.
- ↑ "How 19-Year-Old Juice WRLD Scored a $3 Million Record Deal Without a Plan". Complex. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2018. Cyrchwyd 7 Mehefin 2018.
- ↑ 11.0 11.1 Ware, Tajah (September 20, 2017). "An Interview with Juice Wrld". Elevator. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2018. Cyrchwyd 6 Mai 2018.
- ↑ "Too Much Cash (Prod. Nick Mira)". SoundCloud. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mai 2020. Cyrchwyd 20 Ebrill 2018.
- ↑ Ison, Eric. "It's All Authentic: An Interview With Juice WRLD". Pigeons & Planes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2018. Cyrchwyd 20 Mai 2018.
- ↑ Galil, Leor (19 Mawrth 2018). "Tracking the astronomical rise of Chicagoland rapper Juice Wrld". Chicago Reader. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2018. Cyrchwyd 20 Mai 2018.